Flwyddyn yn ôl, prin y byddai neb wedi rhagweld rhyfel ffyrnig rhwng dwy wlad yn Ewrop. Ond ar 24 Chwefror, fe wnaeth Rwsia ymosod ar Wcráin. Prin fod Vladimir Putin wedi rhagweld ychwaith y byddai Wcráin yn llwyddo i wrthsefyll ymosodiad ei luoedd arfog mewn modd mor gadarn.
Erbyn hyn, mae tua chwarter miliwn o filwyr a phobl gyffredin wedi cael eu lladd neu eu clwyfo, heb unrhyw obaith am ddiwedd i’r ymladd. (Isod: un o danciau Rwsia’n chwilfriw.)
Cyfraniad Prydain
Yn 2022 fe wnaeth llywodraeth Prydain gyfrannu gwerth £2.3 biliwn o offer milwrol i Wcrain, gan gynnwys cannoedd o gerbydau rhyfel, gynnau trwm, taflegrau i ddinistrio tanciau a llawer mwy. Mae addewid i anfon gwerth £2.3 biliwn ymhellach eleni, gan gynnwys nifer o danciau.
Ond mae’r rhyfel yn costio llawer mwy i bobl Prydain, gan fod y sancsiynau yn erbyn Rwsia wedi achosi cynnydd aruthrol ym mhris tanwydd fel nwy ac olew i wresogi ein cartrefi – cost y bydd llawer yn methu ei fforddio y gaeaf hwn. Dyna sydd hefyd wedi cyfrannu at y chwyddiant sydd, yn ei dro, wedi arwain at y streiciau presennol mewn llu o sectorau – gan gynnwys ysgolion ac ysbytai.