Cynhaliwyd cyfarfod ingol yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd gan elusen Open Doors.
Noddwyd y digwyddiad gan Darren Miller AS ac fe lywyddwyd gan Sam Rowlands AS. Wedi agoriad byr gan Jim Stuart, cynrychiolydd Open Doors yng Nghymru, fe wahoddwyd Timothy i rannu ei stori. Mae Timothy yn hanu o Ogledd Corea ac yno mae pob crefydd yn waharddedig ac unrhyw fynegiant o ffydd yn cael ei erlid yn llym. Disgrifiodd y modd y mae’r boblogaeth yno yn cael eu cyflyru i ystyried teulu Kim Jong Un fel pobl ddwyfol. Gosodi’r delwau a lluniau ohono ym mhob man ac fe orfodir y boblogaeth i fod yn ufudd. Ei daid Kim Il Sung oedd yr unben cyntaf pan sefydlwyd y wlad ym 1948, dilynwyd ef gan ei fab Kim Jong Il sef tad Kim Jong Un. Felly, am dros 70 mlynedd y maent wedi rheoli’r wlad yn llym. Dim ond gwylio rhaglenni swyddogol y wladwriaeth gall y boblogaeth wneud ac nid oes ganddynt fynediad i’r we fyd-eang. Fe’u dysgir fod y Beibl yn llyfr drwg ac na ddylai unrhyw un ei ddarllen. Os canfyddant eich bod yn Gristion y mae perygl i chi gael eich dienyddio. Os na ddigwydd hynny gallant eich gyrru i wersylloedd llafur am weddill eich oes. Ar ben hynny y maent yn arestio eich teulu ac yn eu cosbi hwy hefyd hyd yn oed os nad ydynt yn Gristnogion.
Dirdynnol
Ceisiodd Timothy ddianc o’r wlad ddwywaith. Y tro cyntaf fe gafodd ei ddal yn Tsieina a’i yrru yn ôl. Ond yr ail dro bu’n llwyddiannus er iddo wynebu profiadau hunllefus. Disgrifiodd fel cafodd ef a nifer o garcharorion eraill, wedi iddynt ddianc i Tsieina, eu rhoi mewn cell fechan dros nos. Nid oedd digon o le i droi nac i orwedd. Felly roedd y carcharorion y cysgu gefn wrth gefn. Un noson teimlai’r gŵr y tu cefn iddo yn pwyso’r drwm iawn arno. Dywedodd wrtho am beidio, ac wrth droi ei ben sylweddolodd fod y dyn wedi marw. Ond y tro hwn ni chawsant eu gyrru yn ôl i Ogledd Corea, yn hytrach fe’u hanfonwyd i’r Philipinau. Rhoddodd dieithryn Feibl iddo ac yn raddol daeth i ffydd yn Iesu Grist. Bellach y mae’n byw ym Manceinion, Lloegr, gyda’i wraig a’i ddau o blant. Wrth gwrs yr oedd yn falch iawn o gael dod atom i Gymru gan ei fod yn ymwybodol o hanes y Cymro Robert Germain Thomas a aeth â Beiblau i Gorea.
Rhestr wylio
Bwriad y cyfarfod oedd tynnu sylw at yr erlid y mae Cristnogion yn ei wynebu ar hyd a lled y byd a’r angen i ni gefnogi elusennau fel Open Doors sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth. Ar ddydd Mercher 15 Ionawr fe lansiwyd ‘Rhestr Wylio’r Byd’ ganddynt sy’n rhestru’r gwledydd hynny lle mae erledigaeth ar ei waethaf. Bydd y fersiwn Cymraeg ar gael tua dechrau mis Mawrth, a gellir archebu copïau yn rhad ac am ddim. Gellir gweld rhestr 2025 trwy fynd i: <https://www.opendoorsuk.org/persecution/world-watch-list/>
Eleni mae’r deg uchaf ar y rhestr wylio fel a ganlyn:
1. Gogledd Corea. 2. Somalia. 3. Yemen. 4. Libya. 5. Swdan. 6. Eritrea. 7. Nigeria. 8. Pacistan. 9. Iran. 10. Afghanistan
Ein dyletswydd ni mewn sefyllfaoedd o’r fath fel Cristnogion rhydd yw cefnogi elusennau fel hyn trwy gyfrannu’n ariannol, gweddïo a chysylltu gyda’n haelodau seneddol yn tynnu eu sylw at sefyllfaoedd o erlid.