Bryngwenith, Henllan, Castellnewydd Emlyn, Ceredigion

O fis Mai 2023 hyd fis Mai 2024, y Cynghorydd Sir Maldwyn Lewis, diacon yn eglwys Bryngwenith yw Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ac fel sy’n arferol ar hyd y blynyddoedd mae Oedfa’r Cadeirydd i’w chynnal yn y capel o’u dewis hwy. Capel Bryngwenith oedd lleoliad oedfa ddinesig Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion yn ystod haf 2023.

Roedd y capel yn orlawn. Cafwyd neges amserol gan gaplan y Cadeirydd sef y Parchedig Carys Ann sydd hefyd yn briod â Maldwyn. Cyflwynwyd englyn o waith y Prifardd Ceri Wyn Jones, wedi ei fframio i Maldwyn oddi wrth aelodau eglwys Bryngwenith:

Y Cynghorydd Maldwyn Lewis

(Cadeirydd Cyngor Ceredigion)

 

Yn ei holl waith wrth y llyw, dros ei sir,

dros eraill, mor glodwiw,

un o blaid pobol ydyw,

un o blith ei bobol yw.

 

Cymerwyd rhan gan Brenda Jones, Morfydd Davies, Anne Lewis, John Adams, Elin Fflur Davies a Sara Mai Davies, gyda gwledd wedi ei baratoi yn y festri a thu allan dan ofal Elonwy James, a nifer o wragedd yr eglwys a’r ardal ehangach. 

Yn y cyfarfod gwnaethpwyd casgliad at Apêl Uned Dydd Cemotherapi Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Y cyfanswm oedd £2,100.

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.