Ar brynhawn heulog braf, 22 Hydref 2023, cynhaliwyd gwasanaeth olaf Capel y Lôn, Slough. Oherwydd lleihad yn nifer yr aelodau ac anawsterau iechyd a theithio i’r gwasanaethau penderfynwyd dod a’r achos i ben. 

Roedd y gwasanaeth yng ngofal y Parchg Gwylfa Evans, fu’n ffyddlon gyda ni ers blynyddoedd bellach. Yn ystod y gwasanaeth cafwyd gair gan y Parchg Rob Nicholls yntau wedi bod yn gefnogaeth i ni. Nid oedd y Parchg Anthony Williams yn gallu bod gyda ni, bu yntau’n gwasanaethu yng Nghapel y Lôn ers blynyddoedd lawer. 

Ar ran yr eglwys cafwyd atgofion o’r holl amserau gan rai a fu’n rhan o fywyd yr eglwys: Eirwen Ebeneser fu’n aelod, diacon, trysorydd a hefyd yn organydd, oedd yn hanfodol i bob gwasanaeth, ac yn dilyn hynny cafwyd rhagor o atgofion gan Mair Jones trysorydd, ysgrifennydd a diacon yn ystod bron i hanner can mlynedd o fod yn aelod. 

Negeseuon

Derbyniwyd negeseuon gan gyn aelodau a fu’n ffyddlon iawn i’r achos cyn symud o’r ardal: Mrs Mairwen Joseph a’i diweddar ŵr, Tal Joseph, bu’r ddau’n ddiaconiaid, yn ysgrifennydd a thrysorydd o’r saithdegau nes symud o’r ardal i gartref newydd i fan oedd yn rhy bell oddi wrthym. 

O’r aelodau presennol roedd dau yn ‘blant’ i rai o’r aelodau gwreiddiol: Mrs Marion Skuse, oedd â’i rheini’n hanu o Sir Aberteifi a Mr Aled Williams, ei rieni yntau’n athrawon o Gymru sef Windsor a Morwen Williams. Bu Morwen yn organydd yn y capel gwreiddiol ac yng Nghapel y Lôn am flynyddoedd. 

Ceidwad y Clo

Un arall o’n haelodau a ddaeth i’r oedfaon gyda’i thad ydy Mrs Mair Wintle, bu hithau’n ddiacon ac yn organyddes yn ei thro. Ei swydd bwysig hi gyda ni’n ddiweddar fu gweithredu fel Ceidwad y Clo, hi oedd yn gwneud yn siŵr bod y drws ar agor ar gyfer ein gwasanaethau. 

Daeth yr oedfa i ben wedi i Gwylfa ein harwain at fwrdd y Cymun ac yno ddatgorffori’r achos yn swyddogol drwy ganu’r emyn ‘Dan dy fendith wrth ymadael’. 

Roeddem yn falch o gael cefnogaeth aelodau o Harrow ac er y tristwch roedd yn dda cael cymdeithas gyda’n gilydd o gwmpas y byrddau’n llawn teisennau a phaneidiau cyn ymadael. 

Diolch i bawb a gefnogodd dros y blynyddoedd, yn enwedig y rhai o Gymru oedd yn barod i dreulio prynhawn gyda ni. 

  Diolch i bawb. 

Mair Jones 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.