Os ydych newydd ymgymryd â rôl ddiogelu yn eich eglwys leol, wedi gwneud hyn ers tro, neu'n ystyried y rôl - mae'r dudalen newydd hon ar wefan y panel ar eich cyfer chi
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y rôl a dolenni ac adnoddau defnyddiol gan gynnwys y daflen newydd hon : Cydlynydd_diogelu ydw i ...beth nesaf?_ i'ch helpu i ddeall y rôl a'ch cyfrifoldebau diogelu.
Mae yna sesiynau hyfforddiant newydd ar gyfer cydlynwyr diogelu ar y gweill yn 2024. Mae'r un cyntaf ar 15/2/24 gyda mwy o ddyddiadau i ddilyn. Yma hefyd gewch chi wybodaeth a dolenni archebu am hyfforddiant diogelu lefel 2,sy’n fandadol ar gyfer gweinidogion bob 4 mlynedd, a hyfforddiant diogelu lefel 1 ar gyfer gwirfoddolwyr.
Cofiwch bod swyddogion y panel yno i'ch helpu gyda phob agwedd o ddiogelu grwpiau bregus. post@panel.cymru