Mae mudiadau ffydd DEC yn uno o blaid goroeswyr daeargrynfeydd, wrth i roddion i apêl Twrci-Syria DEC Cymru gyrraedd £2.6 miliwn mewn wyth diwrnod 

O'r eiliad y tarodd daeargrynfeydd dinistriol dde Twrci (a elwir bellach yn Türkiye) a gogledd-orllewin Syria, mae elusennau ffydd DEC a'u partneriaid wedi bod yn ymateb drwy’r dydd a'r nos i ddiwallu anghenion brys. Mae o leiaf 41,000 o bobl wedi cael eu lladd, dros 100,000 wedi eu hanafu, a 17 miliwn wedi eu heffeithio. 

Mae'r rhoddion i Apêl Daeargryn Twrci-Syria y DEC wedi cyrraedd £2.6m yng Nghymru, ac £88.1 miliwn ar lefel y DU mewn wyth diwrnod.  Bydd y rhoddion yn cefnogi gwaith aelod elusennau’r DEC sy’n darparu cymorth hanfodol i blant a theuluoedd yn Nhwrci a Syria. Mae'r ffigwr hwn yn cynnwys £5 miliwn mewn arian cyfatebol gan Lywodraeth y DU a rhodd o £300,000 gan Lywodraeth Cymru. 

Dywedodd Saleh Saeed, Prif Weithredwr y DEC: "Rydym wedi gweld cymunedau ffydd yn ymateb yn sydyn i gefnogi goroeswyr, yma yn y DU ac ym mharth y daeargryn. Yn y DU mae miliynau o bunnoedd wedi cael eu codi, a gwyddom fod y gefnogaeth yma eisoes yn achub bywydau.    

"Nid yw daeargrynfeydd yn gwahaniaethu rhwng gwledydd na chredoau pobl. Ar draws yr ardaloedd a effeithiwyd, mae addoldai wedi agor eu drysau i'r rhai mewn angen, waeth beth fo'u ffydd neu genedligrwydd, i ddarparu lloches, bwyd, dŵr a dillad cynnes.   

"Mae'r DEC yn ddiolchgar i bobl o bob ffydd – neu ddim ffydd - sydd wedi cefnogi apêl  y DEC mewn modd mor hael, ac i’r holl fosgiau ac eglwysi am eu cefnogaeth yn Nhwrci, Syria ac yma yn y DU" 

Mae elusen DEC Tearfund yn Aleppo yn darparu lloches, bwyd poeth, dŵr a dillad cynnes i tua 2,000 o bobl.   

Meddai Cynan Llwyd, Pennaeth Tearfund Wales:  

"Agorodd eglwys sy’n bartner i Tearfund yn Aleppo drysau ei hadeiladau i gynnig lloches a chefnogaeth achubol i filoedd o bobl. Gwyddom pa mor hael y bu ymateb pobl ffydd yng Nghymru dros y blynyddoedd, ac rydym yn eu hannog i barhau i gefnogi'r apêl hon. Mae cefnogaeth pobl ffydd yng Nghymru wirioneddol yn achub bywydau. Galwn arnynt hefyd i  weddïo dros bobl Syria a Thwrci. Rydyn ni'n gwybod bod gweddi yn gwneud gwahaniaeth.  Rydym yn gweddïo dros yr ymateb brys, dros y bobl sydd wedi eu heffeithio gan y daeargryn, dros ein partner eglwysig ac am heddwch." 

Mae elusen DEC, Cymorth Cristnogol, wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid lleol ar draws gogledd-orllewin Syria ers 2012, mewn ardaloedd nad ydynt yn cael eu rheoli gan y llywodraeth sy'n brin o adnoddau ac wedi eu tan-wasanaethu. Cafwyd eisoes achosion o golera eisoes yn yr ardal honno, a allai ledaenu'n gyflym heb ddŵr yfed glân.  

Y prif anghenion yw citiau gaeaf sy'n cynnwys eitemau fel blancedi, matresi, dillad cynnes, parseli bwyd a deunyddiau gwresogi. Roedd partneriaid eisoes wedi llwyddo i brynu gwerth £40,000 o becynnau'r gaeaf gydag arian Cymorth Cristnogol ac fe ddosbarthwyd y rhain yn syth.   

Ychwanegodd Nan Powell-Davies, Cadeirydd Pwyllgor Cenedlaethol Cymorth Cristnogol Cymru:  

"Mae ein neges yn un syml: cydsafwn ochr yn ochr â phobl sy’n dioddef. Rydym yn hynod ddiolchgar am haelioni pobl yng Nghymru, a byddwn hefyd yn annog pobl ffydd i weddïo. Gweddïwch am gysur a nerth yn wyneb colled a phoen, ac am ddoethineb a dewrder yn y penderfyniadau a wnaed yn ystod yr ymateb dyngarol.   

"Gallwn ddangos ein bod yn cydsefyll gyda phobl yn y ddwy wlad sydd angen ein gweddïau a'n gweithredoedd – mae pob gweddi, pob rhodd, pob gweithred yn dod â gobaith." 

Mae elusen DEC, CAFOD, wedi cefnogi partneriaid yn Syria ers y gwrthdaro 12 mlynedd yn ôl, felly roedd gan yr elusen bartneriaid eisoes ar lawr gwlad oedd yn gallu ymateb yn syth pan darodd y daeargryn.  

Mae hyn wedi cynnwys darparu lloches, bwyd, dŵr, blancedi cynnes a chitiau gaeaf i helpu pobl i ymdopi â thymheredd rhewllyd.   

Dywedodd Christine Allen, Cyfarwyddwr CAFOD, asiantaeth cymorth swyddogol yr Eglwys Gatholig:  

"Mae pobl Syria wedi cael eu poenydio gan ryfel ers dros ddegawd. Roedd teuluoedd eisoes wedi colli cymaint, a llawer wedi colli'u cartrefi, eu bywoliaeth a'u hanwyliaid. Mae dioddef daeargryn, ar ôl wynebu cymaint eisoes, yn dorcalonnus.  

"Mae'n hanfodol ein bod yn cofio holl ddioddefwyr y daeargryn dinistriol hwn yn Nhwrci a Syria yn ein gweddïau, ac rwy'n gweddïo y gall pobl Syria ailadeiladu eu bywydau a chanfod heddwch a diogelwch o'r diwedd. Gweddïwn hefyd dros ein partneriaid lleol, pobl Syria, sy'n rhoi cymaint o'u hamser a'u hymroddiad yn ystod y cyfnod anodd hwn." 

Mae elusen DEC Islamic Relief Worldwide yn dweud bod effaith y daeargrynfeydd hyn wedi bod yn ddinistriol ac y bydd yn effeithio ar fywydau am genedlaethau i ddod. 

Dywedodd Waseem Ahmed, Prif Swyddog Gweithredol Islamic Relief Worldwide:   

"O fewn oriau i'r daeargrynfeydd daro, ymatebodd timau Islamic Relief yn Türkiye a Syria. Maen nhw wedi bod yn gweithio bob awr o'r dydd a'r nos, gan roi cefnogaeth a chymorth i nifer o deuluoedd.   

"Ar draws Syria a Türkiye, mae pobl yn wynebu eu horiau mwyaf tywyll o ddioddefaint a chaledi. Yn y cyfnod anodd hwn rydym yn pwyso ar ein ffydd am y nerth sydd ei angen mor daer a gweddïo am drugaredd Allah ar bawb a effeithiwyd. Rwy'n hynod ddiolchgar am y don o haelioni a welwyd yn wyneb yr apêl." 

Mae elusen DEC, World Vision UK, yn mobileiddio ei thimau amddiffyn plant i sicrhau bod plant sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng hwn, gan gynnwys y rhai sy'n amddifad neu wedi'u gwahanu o'u rhoddwyr gofal, yn ddiogel ac yn derbyn gofal.   

Dywedodd Mark Sheard, Prif Swyddog Gweithredol World Vision UK: "Mae argyfwng dyngarol o'r raddfa hon yn galw am ymateb dyngarol sy'n hanesyddol yn ei haelioni, ac rydym mor ddiolchgar i'r rhai sydd wedi cefnogi apêl y DEC hyd yn hyn.   

"Rydym yn annog pobl ffydd i barhau i gadw Syria a Türkiye yn eu gweddïau – safwn gerbron Duw a galarwn gyda'r rhai sydd wedi colli anwyliaid neu gartrefi, a gofynnwn i Dduw i ddarparu’r adnoddau sydd eu hangen ar y rheini sy’n darparu cymorth dyngarol hanfodol i bobl sydd mewn dirfawr angen."  

Parhaodd y daeargrynfeydd eiliadau ond bydd yr ôl effeithiau’n cael eu teimlo am flynyddoedd. Bydd eich cefnogaeth yn helpu elusennau DEC i gynyddu eu gwaith a darparu cefnogaeth nawr ac yn y misoedd i ddod.   

Plîs cyfrannwch beth y gallwch ar dec.org.uk.  

Sut i gyfrannu:  

 

·         Ar-lein: dec.org.uk  

·         Ffon: 0370 60 60 610    

·         Neges destun / SMS: anfonwch neges gyda HELPU ynddi i 70787 i roi £10.  

·         Gallwch gyfrannu dros y cownter mewn unrhyw fanc ar y stryd fawr neu Swyddfa’r Post. Neu gallwch anfon siec at:  DEC Turkey-Syria Earthquake Appeal, PO Box 999, London EC3A 3AA.    

  

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.