Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) a Chymdeithas y Cymod yn cynnig cyfle unigryw i 6 o bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed yng Nghymru ddod yn Llysgenhadon Heddwch Ifanc.
Bydd y 6 person ifanc a ddewisir yn cael hyfforddiant a chymorth i'w helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder angenrheidiol ar gyfer y rôl. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal ar 25 – 26 Gorffennaf yn adeilad hanesyddol y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Bydd yn hwyl ac yn rhyngweithiol ac yn cynnwys y cyfle i gwrdd â phobl ifanc o wahanol wledydd yn ogystal â gwleidyddion ac aelodau o grwpiau heddwch ac i ddysgu sut i ymgyrchu’n ddi-drais dros newid.
Dim ond 6 lle sydd ar gael, felly a wnewch chi annog bobl ifanc yn eich sefydliad i wneud cais erbyn 4 Gorffennaf? Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan janeharries@wcia.org.uk.