Yn dilyn cyflwyno cyfyngiadau Lefel 2 yng Nghymru ar Ragfyr 26, gellir bellach gweld testun cyflawnRheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru), fel y’u diwygiwyd, yma. Ar hyn o bryd y prif reoliadau (tt 4-55) ac Atodlen 2 (tt 65-73) sy’n weithredol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu crynodeb o brif ofynion Lefel 2 ac atebion i gwestiynau cyffredin. Mae canllawiau cyffredinolLlywodraeth Cymru yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am sut y mae’r feirws yn lledaenu ac yn tynnu sylw at y gweithgareddau sy’n arwain at risg – megis canu. Mae yna hefyd cerdyn gweithredu gyda gwybodaeth fwy penodol ar gyfer addoldai. Dylid darllen y cerdyn hwn ochr yn ochr â’r canllawiau cyffredinol.
Mae’r cyfyngiadau Lefel 2 y tro hwn – yn wahanol i’r cyfyngiadau tebyg yn haf 2021 – wedi eu cyflwyno o fewn fframwaith asesu risg pedwar cam Llywodraeth Cymru. Yng ngoleuni hyn, rydym wedi diweddaru tudalen briffio Cytûn yn llwyr, gan ddilyn y pedwar cam yn eu tro. Gellir gweld y dudalen yma:https://www.cytun.co.uk/hafan/covid-19-papur-briffio/
Yn wyneb cwestiynau a gafwyd, fe dynnwn sylw yn arbennig at dair agwedd i’r rheoliadau fel y maent yn sefyll sydd yn gweithio mewn modd ychydig yn wahanol i’r tro diwethaf y buom ar Lefel 2:
1. Cynnal pellter o 2m rhwng pob “grŵp a ganiateir”: Mae cymal 16(4A) y Rheoliadau yn dweud ystyr “grŵp a ganiateir” yw—... grŵp— (i) sy’n cynnwys dim mwy na 6 o bobl, heb gyfrif unrhyw bersonau o dan 11 oed nac unrhyw ofalwr i berson yn y grŵp, neu (ii) sy’n cynnwys aelodau o’r un aelwyd ac unrhyw ofalwr i aelod o’r aelwyd. Golyga hyn ei bod yn gyfreithlon i fangre, gan gynnwys addoldy, ganiatáu i bobl nad ydynt yn rhan o’r un aelwyd gyd-eistedd mewn grwpiau o hyd at 6 o bobl. Ond nid yw’n rheidrwydd ar addoldai na gweithgareddau ganiatáu hyn – gallant, yn unol â’u hasesiad risg, penderfynu mynnu mai aelodau o’r un aelwyd yn unig caiff gyd-eistedd; neu bod rhaid trefnu lle fel grŵp ymlaen llaw; neu caniatáu grwpiau llai o faint (megis grwpiau o 2 neu 3 er mwyn galluogi i bobl fyddai fel arall yn gorfod eistedd ar eu pennau eu hunain gael rhywfaint o gwmni). Mae hawl cyfreithiol gan awdurdodau unrhyw fangre, gan gynnwys addoldy, llunio asesiad risg i’r perwyl hwn a’i weithredu. Serch hynny, gan y bydd aelodau o’r cyhoedd wedi arfer â grwpiau o 6 yn cyd-eistedd mewn caffis, tafarndai, ac ati, fe all y bydd yn gymorth i fod yn barod i esbonio’r penderfyniad i’r sawl sy’n ei gwestiynu (er enghraifft trwy gyfeirio at nifer y bobl fregus sy’n bresennol).
2. Gweithio gartref: Mae Cymal 18B y Rheoliadau yn darparu ni chaiff unrhyw berson ymadael â’r man lle y mae’n byw, neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw, at ddibenion gwaith neu i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol ar yr amod ei bod yn rhesymol ymarferol i’r person weithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol o’r man lle y mae’n byw. Nid yw’r amod hwn yn benodol iawn, ond fe’n sicrhawyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru nad yw wedi ei fwriadu fel ffordd o gau addoldai yn gyfangwbl. Ond gan fod pob gweithgarwch a drefnir mewn addoldy yn ddibynnol ar rywrai sy’n gweithio neu yn darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, dylid ymhob achos ystyried o ddifrif a ellid cynnal y gweithgarwch gan bobl yn eu cartrefi – gan ddefnyddio cyfathrebu ar-lein, y ffôn, ac ati.
- Mae Atodlen 2 yn cyfyngu cynulliadau mewn anheddau (gan gynnwys mansys, ficerdai a llety gweithwyr eglwysig) i 30 o bobl, ac mewn gerddi preifat i 50 o bobl. Ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r rheidrwydd i ymgymryd â gwaith neu waith gwirfoddol yn eich cartref eich hun lle bo hynny yn rhesymol ymarferol. Felly, dylai eglwysi ystyried yn ddwys cyn mynd yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau neu gyfarfodydd mewn anheddau neu erddi preifat. Os penderfynir gwneud, er nad yw anheddau preifat yn “fangreoedd rheoleiddiedig”, mae Cytûn yn argymell y dylid cynnal asesiad risg a gosod mesurau diogelwch yn eu lle sy’n cyfateb i’r hyn y byddid yn ei wneud o gynnal y gweithgarwch neu’r cyfarfod yn yr addoldy neu ganolfan.