Mae Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru yn gwahodd ceisiadau am swydd
Prif Weithredwr
a ddaw’n wag toc gan y bydd deiliad presennol y swydd, y Parchedig Ganon Aled Edwards, yn ymddeol.
Bydd deiliad y swydd yn
- arwain gyda gweledigaeth ar eciwmeniaeth ac ymwneud â’r cyhoedd gan Eglwysi Cymru a bydd yn galluogi ac yn dwyn ymlaen y rhaglen waith a’r blaenoriaethau a osodir gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Cytûn i wasanaethu’r Eglwysi.
- goruchwylio cefnogaeth i’r Cyfamod dros Undod yng Nghymru trwy Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol.
- rheoli tîm sy’n cyflwyno’r rhaglen waith y cytunwyd arni gan y bwrdd a’r eglwysi sy’n aelodau
- Gristion sy'n deall ac yn derbyn sail Cytûn
- gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg a Saesneg
Am fwy o wybodaeth am Cytûn, y rôl, a’r unigolyn yr ydym yn chwilio amdani/o, cysylltwch â cadeirydd@cytun.cymru https://www.cytun.co.uk/hafan/swyddi/
Gwnewch gais ar-lein at cadeirydd@cytun.cymru
A fyddwch cystal â chynnwys y canlynol:
- CV cynhwysfawr sydd yn cynnwys eich llwyddiannau diweddar a manylion dau ganolwr, gydag un ohonynt yn goruchwylio eich gwaith cyfredol.
- Llythyr cais sydd yn cynnwys eich rheswm dros wneud cais a’r priodweddau y byddwch yn eu dwyn i’r rôl.
- Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 11eg Dachwedd 2022
- Cynhelir cyfweliadau ar 25 Dachwedd 2022
Cysylltwch â cadeirydd@cytun.cymru os oes gennych unrhyw broblemau