Mae’r achos Annibynnol ym Mhant-teg, sy’n ddwfn yn y bryniau i’r gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin, gyda’r hynaf yn Sir Gâr. Mae’n dyddio ’nôl i 1669 a chyfnod yr Erlid Mawr. Mae’r gymanfa bwnc hefyd yn hen draddodiad. I’r rhai na fu mewn achlysur o’r fath erioed, mae’r gynulleidfa yn darllen ‘y pwnc’, sef rhai adnodau o’r Beibl, a’r person sy’n y pulpud yn eu holi nhw.
Ffydd a gweithredoedd
Ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol, roedd y thema bod ffydd heb weithredoedd yn ddi-werth yn un amserol. (Math. 7:21–29 a Iago 2:15–20). Roedd aelodau yno o Bant-teg, Peniel a Bwlch-y-corn, sef cylch y gymanfa ers blynyddoedd lawer, i ateb cwestiynau gan yr holwr gwadd, Alun Lenny. Cyn hynny cafwyd cyflwyniad hyfryd gan blant ysgol Sul Peniel am hanes Noa. Testun amserol o gofio’r holl law a gafwyd eleni tan yn ddiweddar! Ar ddiwedd yr oedfa, cafodd pawb gyfle i gael lluniaeth ysgafn a chymdeithasu yn y festri i gloi prynhawn hyfryd iawn ym Mhant-teg.