Wrth i'r Parchg Gwyn Elfyn ymddeol dyma deyrned iddo gan un o'i eglwysi: Bethesda'r Tymbl.
Ar ôl i’n gweinidog Parchg Emyr Gwyn Evans ein gadael a mynd i astudio ymhellach o dan adain Prifysgol Y Drindod Dewi Sant roedd angen i ni ddod o hyd i weinidog. Doedden ni ddim mewn sefyllfa i gynnal gweinidog ein hunain felly dyma edrych o’n cwmpas ac yn ffodus iawn i ni roedd y Parchg Gwyn Elfyn Jones wedi cymhwyso i fod yn weinidog yn weddol ddiweddar ac yn llythrennol ‘lawr yr hewl’. Mantais arall i ni oedd bod ei fam a’i dad yng nghyfraith yn ddiaconiaid gyda ni. Er iddynt esgusodi eu hunain o bob trafodaeth oherwydd y cysylltiadau teuluol mae’n siŵr ei fod e wedi bod yn help i ddenu Gwyn i’n plith.
Mab y Mans
Roedd rhaid i ni dderbyn cael cwrdd yn y prynhawn yn lle’r bore a oedd ychydig bach yn anodd dod i arfer ag e ar y dechrau ond unwaith y mis roeddwn yn gallu cael cwrdd y bore i’r boregodwyr. Prin iawn fu’r amser pan oedd Gwyn yn cael ei ystyried fel ‘y gweinidog newydd’ oherwydd roedd mor gyfarwydd i’r rhan fwyaf ohonom. Roedd naill ai yn perthyn, yn ffrind, wedi bod yn yr ysgol gyda rhywrai ac wedi chwarae rygbi neu wedi bod yn dilyn rygbi, neu gydganu mewn corau gydag eraill. Roedd rhai hyd yn oed yn gymdogion i’w deulu. Setlodd mewn i’n plith yn rhwydd iawn. I’r rhai oedd ddim mor gyfarwydd ag ef fel Gwyn y Mans roedden nhw wedi arfer a’i weld dros y blynyddoedd yn eu cartrefi fel Denzil yn Pobol y Cwm. (Roedd wastad yn creu ’bach o gynnwrf yn y ward pan fyddai’n dod i ymweld ag aelodau oedd yn yr ysbyty. Roedd hyd yn oed y rhai di-Gymraeg yn dweud, ‘Was that Denzil from Pobleecoom?’).
Roedd pethau’n hapus braf a phob dim yn iawn. Roedd Gwyn yn boblogaidd gyda’r gynulleidfa hŷn ac yn ffefryn gyda’r plant am ei fod yn mwynhau pan oedd yn chwarae’r ffŵl ac yn tynnu eu coes.
Bendith technoleg
Yna daeth Covid a’i gysgod. Bydd pawb ohonom â gwahanol atgofion am y cyfnod tywyll yna ac mae’n bwysig iawn ein bod dal i gofio am yr unigolion gollodd deulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod yna. Hyd yn oed os nad Covid oedd y rheswm roedd ffarwelio ag anwyliaid dan amgylchiadau ofnadwy yn greulon tu hwnt. Roedd hi’n gyfnod rhyfedd iawn ond roeddwn yn ffodus ein bod wedi gallu cael anerchiad wythnosol bron o’r cychwn ar YouTube ar adeg pan oedd clywed y Gair hyd yn oed yn bwysicach nag arfer. Hefyd fe gynhaliwyd gwasanaethau byw ar y cyd gyda’r ddwy eglwys arall ar Zoom sawl gwaith. (Rhaid cymryd y cyfle fan hyn i ddiolch i’r holl weinidogion ymhell ac agos a fu wrthi’n ein cynnal drwy gyfrwng technoleg yn ystod y cyfnod yna.)
Er i Covid ddod a chymaint o bethau gwael yn ei sgìl buom yn ffodus i ddysgu sgiliau newydd ac i gyrraedd aelodau sydd yn gaeth yn eu cartrefi am wahanol resymau neu yn byw yn bell i ffwrdd. Roedd Gwyn wedi parhau i recordio anerchiad i’r aelodau nad oedd yn gallu dod i’r cwrdd hyd ddiwedd ei weinidogaeth gyda ni.
Cyfathrebwr
Dyn aeddfed oedd yn weinidog eithaf newydd ddaeth atom ni ym Methesda dros wyth mlynedd yn ôl. Gallwn weld ei ddatblygiad a’i grefft yn cael ei hogi wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaenau. Roedd wastad ganddo’r common touch. Roedd yn gallu cyrraedd ei gynulleidfa’n rhwydd – efallai am ei fod wedi gweithio mewn meysydd eraill cyn mynd i’r weinidogaeth? Oherwydd ei amryw ddiddordebau ym myd y ddrama, mewn hanes lleol, rygbi a phêl droed roedd yn gallu cymharu sefyllfaoedd gyda’i neges a’n cael ni i ddeall fel oedd modd trosglwyddo’r neges i’n bywyd a’n sefyllfa ni. Gyda’i rhieni yn dod o’r gogledd roedd hyd yn oed yn gallu newid geirfa ac acen yn ôl y galw!
Rydym yn ddiolchgar yn ogystal i Caroline am fod yn gefn iddo yn ystod y cyfnod ac yn enwedig adeg Covid. Rydym wedi gallu elwa o’u chefnogaeth a’u dawn wrth yr organ hefyd ar adegau sydd wedi bod yn fendith.
Gwerthfawrogiad
Er ein bod yn ffarwelio gyda Gwyn fel ein gweinidog rydym yn ffodus ei fod dal ‘ambwyti’r lle’. Mae wedi cytuno i gynnal cymundeb i’r tair eglwys (ni, Nazareth Pontiets a Chapel Seion) ar yr un pryd yn y bore unwaith y mis tan i ni gael gweinidog yn ei le. Diolchwn iddo am ei garedigrwydd yn gwneud hyn. Cawn gyfle yn y flwyddyn newydd i ddathlu ei weinidogaeth gyda’n gilydd fel aelodau’r tair eglwys mewn cinio yn y Llwyn Iorwg lle cawn gyfle nid i ddweud ffarwel ond i ddweud au revoir.
Elen Davies
[Gan ddiolch o waelod calon i’r bonheddwr Geraint Roberts, Cwmffrwd am yr englynion arbennig yma. Roedd Geraint wedi bod yn athro ar Gwyn yn ysgol ramadeg y Gwendraeth ar ddechrau ei yrfa fel athro’n syth o’r coleg ac wedi teimlo hi’n fraint i gael paratoi’r canlynol.]
I gyfarch y Parchg Gwyn Elfyn
wrth ymddeol fel gweinidog Bethesda’r Tymbl
Os mai ffuglen fu’r bennod – ar y sgrin,
gras y Groes yw defod
yr actor a’i Gymreictod
sydd yng nghân Bethesda’n bod.
Mor gadarn ei gred wedyn – a’i ruddin
trwy’r weddi a’i destun,
ac elfennau’r Suliau sy’n
harddu Cwm wrth fwrdd Cymun.
Cennad y Gair cofiadwy – un a saif
mor sicr yn yr adwy,
o hyd gwas dibynadwy
yw Gwyn y Mans, ac i Un mwy.
Geraint Roberts