Nid oedd y rhan fwyaf ohonom erioed wedi bwyta bwyd o Golombia, felly roedd cryn gyffro yn ein plith wrth inni fynd i fwyty Wings of Glory yn ardal Glanyrafon yng Nghaerdydd.
Bwriad y digwyddiad cymdeithasol oedd codi arian tuag at Apêl Ffynhonnau Byw, Cymorth Cristnogol/ Undeb yr Annibynwyr ac fe gafwyd cryn dipyn o hwyl wrth wneud hynny.
Yn ystod y noson cyflwynwyd nifer o gyrsiau sawrus – gan fwyaf – o fwydydd traddodiadol Colombia. Cafwyd platiau o empanadas – pasteiod bychain wedi eu llenwi â briwgig a llysiau; patacones – crempogau banana; arepas de huevos – teisennau india-corn wedi eu ffrio a’u llenwi â llysiau a chaws; tortillas wedi eu gorchuddio gyda chaws a chaserol ffa a reis. Afraid dweud ein bod yn llawn dop erbyn diwedd y digwyddiad. Cynhaliwyd raffl i chwyddo’r coffrau a chwis am y wlad trwy ddefnyddio’r ap Kahoot. Roedd hwn yn gwis difyr iawn gyda lot o firi a thynnu coes.
Diolch i bawb fu’n trefnu’r noson, i bawb a roddodd gyfraniadau at y raffl ac yn enwedig i Catrin Wooler am gario pen trymaf y baich o’r trefnu. Llwyddwyd i godi oddeutu £255. (Cynhaliwyd y noson ar nos Iau 23 Mai.)
Y mae un digwyddiad arall gennym i godi arian sef y Drws Agored. Fe’i cynhelir ar ddydd Sadwrn 15 Mehefin o 10yb–2yp yng nghapel y Methodistiaid yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Bydd hwn yn gyfle i gymdeithasu a phaneidio er mwyn codi arian at ddwy elusen sef Money For Madagascar a Ffynhonnau Byw. Byddwn yn gwerthu rhai o bwythweithiau trawiadol a chain y diweddar Eira Jones.
Rhowch wybod am weithgareddau i godi arian at yr apêl, hanes a lluniau i’w rhannu gyda ni.