Mis Mawrth yn barod!? Beth? Ble mae Ionawr a Chwefror wedi hedfan? Ar ddechrau’r flwyddyn newydd, myfyriwn ar y llynedd ... ac yn naturiol, nid ychwaith ar y pethau cadarnhaol bob tro. Er hyn, rheidrwydd yw myfyrio ar y pethau cadarnhaol yn ein capeli hynny yw, y pethau a AETH YN DDA yn 2022.

Tybed, pa lwyddiant oedd yn eich capel chi’r llynedd ... pa bobl newydd a ddaeth i’w Gysegr am y tro cyntaf? Pa bobl a gafodd fendith o fod yn Ei Dŷ, gyda chi?

Dyma felly pam y dylem roi pwysigrwydd mawr i ESTYN ALLAN yn ein cymunedau – yn enwedig adeg y Nadolig. Yn Saron Creunant gwelwyd llawer iawn o bobl yn dod trwy ddrysau’r capel am y tro cyntaf erioed ar gyfer yr amrywiaeth o oedfaon dros yr ŵyl, gan gynnwys ein Carolau o amgylch y golfen gyda mins peis a gwin poeth.

Cynhaliwyd grŵp crefft yn y festri dros y misoedd yn arwain lan at y Nadolig ac mi roedd hyn yn gyfle i aelodau a chyfeillion y capel i ddod ynghyd i ddylunio a chreu cardiau Nadolig i’w gwerthu yn ein bore coffi ... dros ddisgled wrth gwrs! Am hyfryd, ac am syniad syml ond llwyddiannus i ddod a phobl ynghyd! Y gobaith yw parhau gyda’n Clwb Crefft eleni – yn barod i ddathlu’r Pasg gyda chardiau lliwgar yr aelodau ar werth yn y bore coffi.

Beth a fedrwch chi wneud yn eich eglwys chi eleni er mwyn ceisio estyn allan at eraill? Mi fydd y Pasg yma’n gyflym! Dechreuwch feddwl ...

William Rhys Locke

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.