Ar ddydd Gwener, 20 Medi, cafwyd diwrnod arbennig yn Llety’r Parc, Aberystwyth, wrth i nifer ddod at ei gilydd i ystyried agweddau gwahanol o arwain addoliad.

Roedd y diwrnod yn benodol ar gyfer arweinwyr addoliad, pregethwyr cynorthwyol, a darpar bregethwyr cynorthwyol, a hyfryd oedd gweld nifer o’r rhai fu’n dilyn yr hyfforddiant ‘Arwain Addoliad’ diweddar dros zoom yn cael cydgyfarfod wyneb yn wyneb am y tro cyntaf.

Arweiniwyd y defosiwn gan Dr Huw Tegid wedi ei selio ar hanes Iesu’n galw Mathew. Yn dilyn y defosiwn, arweiniodd y Parchedig Carwyn Siddall sesiwn yn ystyried yr agweddau hanfodol i’w cynnwys mewn addoliad, a chyfle i ystyried pam eu bod yn greiddiol. Yna, cafwyd sesiwn gan y Parchedig Owain Llŷr Evans ar y testun ‘Y Celfyddydau mewn Addoliad’, a sesiwn ar ‘Addoliad Pob Oed’ gan y Parchg Beti-Wyn James. I gloi gweithgareddau’r diwrnod, cafwyd sesiwn ar weddïo.

Cafwyd adborth arbennig i’r diwrnod, a’r bwriad yw cynnal diwrnodau cyffelyb yn y dyfodol. Diolch i bawb fu’n rhan o lwyddiant y diwrnod, ac i’r rhai fynychodd.

 

 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.