Roedd dydd Sul 14 Ebrill yn ddiwrnod o ddathlu a diolch yn Eglwys Bethesda, Llangennech wrth i'r eglwys nodi chwarter canrif o weinidogaeth y Parchg Llewelyn Picton Jones.
Ar ôl cyfnod mewn diwydiant a gyrfa faith ym myd addysg, profodd Llew alwad gref i’r weinidogaeth Gristnogol ac roedd yr adnod ar flaen y daflen ddathlu yn adlewyrchu ei ffydd gadarn a diffuant: ‘Yr wyf yn diolch i Grist Iesu ein Harglwydd, yr hwn a’m nerthodd, am iddo fy nghyfrif yn un y gallai ymddiried ynof a’m penodi i’w wasanaeth.’ (1 Timotheus 1:12)
Troeon yr yrfa
Fe’i hordeiniwyd yng nghapel y Tabernacl, Hendygwyn ym mis Ionawr 1995, gan ymgymryd ȃ gofal yr eglwys honno ynghyd ag eglwysi eraill yr ofalaeth, sef Bethel Llanddewi Efelfre a Trinity Llanboidy. Symudodd i Fethesda ym mis Ebrill 1999 ar drothwy degawd, canrif a mileniwm newydd gan ymgartefu yn hapus iawn ym Methesda. Yn 2001 ymunodd Bethesda ag Eglwys Hope Pontarddulais a wedyn Hope-Siloh i ffurfio gofalaeth newydd, gofalaeth sydd wedi datblygu ar hyd y blynyddoedd o dan arweinyddiaeth Llew a’i briod Marie-Lynne. Roedd yr achlysur yn gyfle i ddiolch i’r ddau am eu brwdfrydedd a’u hymroddiad dros y cyfnod bendithiol a llewyrchus yma.
Amrywiaeth
Llywyddwyd yr oedfa gan Mr Colin Lee, un o ddiaconiaid ffyddlon ac ymroddgar Bethesda, a chymerwyd at y rhannau arweiniol gan Heledd a Lowri, wyresau Llew a Marie-Lynne. Cafwyd amryw o gyfarchion oedd yn gyfle i ddiolch i Llew am ei ofal cydwybodol a thyner trosom fel eglwys ac yn wir i gymdeithas ehangach hefyd ar hyd y blynyddoedd, yn ogystal â’i bregethu grymus sydd bob amser yn adlewyrchu ei gariad mawr tuag at ei Waredwr. Cyflwynwyd cyfarchion gan Efa, Ffion ac Elen ar ran plant ac ieuenctid Bethesda, gyda phawb yn mwynhau clywed am y cyfleoedd amrywiol a chyfoethog a brofwyd ganddynt o dan arweiniad Llew a Marie-Lynne. Ar hyd y blynyddoedd bu cydweithio a chydaddoli hapus gydag eglwysi Llangennech a hefyd gyda’n chwaer eglwys Hope-Siloh. Cyflwynwyd cyfarchion ar ran eglwys Bryn Seion gan Mr Bill Griffiths ac ar ran eglwys Salem gan Miss Megan Morgan y ddau yn diolch ac yn tystio i hynawsedd a pharodrwydd Llew i gynorthwyo eglwysi’r pentref a hefyd am ei weledigaeth yn sefydlu dosbarth Beiblaidd undebol ugain mlynedd yn ôl, dosbarth Beiblaidd sydd yn dal i ffynnu ac sydd yn cynnig cyfle i ddarllen a thrafod y Gair mewn awyrgylch hapus ac adeiladol.
Gwerthfawrogiad
Mr Eric Jones, ysgrifennydd Hope-Siloh, gyflwynodd cyfarchion ar ran ein chwaer eglwys, gan danlinellu y cydweithio hapus a buddiol a fu rhwng y ddwy eglwys ers ffurfio’r ofalaeth o’r cychwyn cyntaf dan arweiniad doeth Llew. Cyflwynodd Mr Desmond Jones deyrnged hyfryd iawn ar ran aelodau Bethesda, oedd yn nodi personoliaeth hawddgar ein Gweinidog, ei awydd i gynorthwyo, ei ofal diflino a’i barodrwydd i fod yn glust ac yn gynhaliaeth i’w aelodau ymhob sefyllfa. Cyflwynwyd rhodd hael ar ran yr eglwys i Llew gan Mr Ken John a thusw hardd o flodau i Marie-Lynne gan yr ieuenctid. Diolchodd Llew yn gynnes iawn i bawb am eu cyfarchion, ac i aelodau a swyddogion Bethesda am eu cefnogaeth, eu cyfeillgarwch a’u ffyddlondeb ar hyd y blynyddoedd. Diolchodd hefyd i’r Parchg D.Gerald Jones am lunio englyn arbennig i ddathlu’r achlysur:
I’n Gweinidog
Mae’n dyst, ac i ni’n destun – i’w ruddin
a’i raddau arobryn;
Yma’n Lew, ac i mi’n lun –
O yrfa’r Crist diderfyn.
Traddododd Llew neges bwerus ar y testun: ‘Felly cenhadon dros Grist ydym ni’ (2 Corinthiaid 5:20) a therfynwyd yr oedfa gyda’r emyn godidog ‘Saif ein gobaith yn yr Iesu’ a ganwyd gydag arddeliad gan y dyrfa luosog gyda Mr Geraint Williams ein horganydd medrus yn cyfeilio. Yn dilyn oedfa hapus a bendithiol gwahoddwyd pawb i’r capel bach i fwynhau lluniaeth ysgafn, darn o gacen y dathlu a chyfle i gymdeithasu. Diwrnod o ddathu a diolch a erys yn hir yn y cof!