1. Y GROES

Am hynny anfonodd yr ARGLWYDD Dduw ef allan o ardd Eden, i drin y tir y cymerwyd ef ohono. 

Genesis 3:23

Yn Eden, cofiaf hynny byth, 

bendithion gollais rif y gwlith; 

syrthiodd fy nghoron wiw. 

Ond buddugoliaeth Calfarî 

enillodd hon yn ôl i mi: 

mi ganaf tra bwyf byw.

Dyma un o emynau rhyfeddol William Williams, Pantycelyn, na fyddaf byth yn blino ei ganu. Un o’r rhesymau am hynny yw ei fod yn mynegi sylfaen y ffydd Gristnogol mor glir, sef cariad achubol Duw yn Iesu. Yn y pennill hwn fe gyfeirir at y cwymp i bechod yng Ngardd Eden (Gen. 3), sydd yn effeithio ar bawb a phopeth. ‘Yn Eden cofiaf hynny byth, bendithion gollais rif y gwlith,’ meddai Pantycelyn. 

Yn y dechrau fe greodd Duw fyd perffaith, lle yr oeddem yn byw mewn perthynas gariadus gydag Ef. Ynddo ef yr oedd ein llawenydd a’n digonedd. Yn y berthynas hon roedd ystyr a phwrpas i fywyd, cyflawnder a dedwyddwch, tangnefedd ac iechyd. Rhoddodd Duw un rheol i bobl ei chadw ond dewisasant dorri’r rheol honno ac o ganlyniad fe gollwyd y bendithion. Torrwyd ein perthynas gyda Duw a daeth pechod fel agendor mawr i’n gwahanu. Yn sgil hyn daeth salwch a marwolaeth, casineb a gwrthdaro, tristwch a diffyg ystyr i’r byd. Dyma pam fod Pantycelyn yn dweud ‘syrthiodd fy nghoron wiw.’ Trwy dorri ein perthynas gyda Duw ein crëwr, torrodd y byd yr ydym yn byw ynddo a chwalwyd ein bywyd fel dynolryw.

Mor ddyrchafol yw ail ran y pennill lle y dywedir, ‘ond buddugoliaeth Calfarî enillodd hon yn ôl i mi: mi ganaf tra bwyf byw.’ 

Yn Iesu trefnodd Duw ffordd trwy ei gariad i bontio’r agendor rhyngom a thrwy Ei farwolaeth aberthol ar y groes  Cosbwyd Iesu am ein pechod fel ein bod ni trwy gredu ynddo yn derbyn maddeuant llwyr am ein hanufudd-dod a bendithion iachawdwriaeth. Trwy fuddugoliaeth Iesu, derbyniwn goron ein bendithion unwaith eto. Haleliwia. ‘Mi ganaf tra bwyf byw.’

2. YR ATGYFODIAD

Dydy e ddim yma; mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna’n union beth ddwedodd fyddai’n digwydd. Dewch yma i weld lle bu’n gorwedd. 

Mathew 28:6

Yr Iesu atgyfododd 

yn fore’r trydydd dydd;

’n ôl talu’n llwyr ein dyled

y Meichiau ddaeth yn rhydd:

cyhoedder heddiw’r newydd 

i bob creadur byw,

er marw ar Galfaria 

fod Iesu eto’n fyw.

Ond nid marwolaeth yr Iesu yw diwedd yr hanes oherwydd rhan fendigedig o stori ei farwolaeth yw ei atgyfodiad. Mae’r ddau beth yn annatod glwm. Mae’r atgyfodiad yn gwbl allweddol. Pe bai Iesu wedi aros yn farw yna byddai ei honiadau wedi bod yn gelwydd. Celwydd fyddai’r hyn a ddywedodd yn Ioan, ‘Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw;’ Celwydd hefyd fyddai hyn a ddywedodd yn Mathew:

 

‘Bydd y rheiny yn gwneud sbort am fy mhen, fy chwipio a’m croeshoelio. Ond yna ddeuddydd wedyn bydda i’n dod yn ôl yn fyw!’

Mathew 20:19 

Roedd yr atgyfodiad felly yn gyflawniad o waith achubol Iesu. Y darn olaf yn y jig-so. Sut felly? Pam fod yr atgyfodiad corfforol mor bwysig? Wel, oherwydd pe bai Iesu wedi aros yn y bedd golygai nad oedd yr hyn a wnaeth wedi delio gyda’r pechod sy’n ein gwahanu oddi wrth Dduw. Oherwydd canlyniad pechod yw marwolaeth. Nid oedd marwolaeth yn Eden tan ar ôl y cwymp. Felly, mae’r atgyfodiad yn profi fod gwaith Iesu i’n cymodi gyda Duw wedi ei gwblhau yn berffaith. Dyma pam fod Thomas Levi yn canu yn ei emyn, ‘’n ôl talu’n llwyr ein dyled y Meichiau ddaeth yn rhydd’ (meichiau = surety, bail). Ar y groes talodd Iesu ein dyled gan ei fod wedi byw bywyd perffaith ar ein rhan a chymryd y gosb yn ein lle. Nid oedd gan farwolaeth hawl arno. Felly, trwy gredu ynddo Ef cawn faddeuant, bywyd newydd a bywyd tragwyddol. Mae hyn yn newyddion bendigedig sydd, yn trawsnewid ein bywydau ac yn trawsnewid ein byd. Dyma pam y dywedir yn hyderus gan Levi, ‘cyhoedder heddiw’r newydd i bob creadur byw, er marw ar Galfaria fod Iesu eto’n fyw.’ Dathlwn a llawenhawn yn dwymgalon y Pasg hwn y fuddugoliaeth ryfeddol sydd gennym ynddo Ef. Mae’n fyw.

 

 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.