Croeso cynnes i Dŷ John Penri i Meinir Williams sydd yn dechrau heddiw fel Swyddog Gweinyddol rhan-amser Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Daw Meinir yn wreiddiol o Hirwaun, Aberdâr a’i magu yn un o blant eglwys Siloa. Ers blynyddoedd bellach bu’n byw yn y Tymbl Uchaf ac mae’n aelod yn eglwys Bethania yno.

Cafodd Meinir yrfa lwyddiannus fel athrawes ysgol, yn fwyaf diweddar yn ysgol gynradd Gymraeg Dewi Sant, Llanelli.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.