Flwyddyn union ers dechrau ymosodiad mawr Rwsia ar wlad Wcráin, fe wnaeth tua 50 o bobl ymgynnull ar Sgwâr Nott, Caerfyrddin i gynnal gwylnos er mwyn meddwl am bawb sy’n dioddef oherwydd y rhyfel yno.
Cyn cynnal pum munud o dawelwch, fe wnaeth y Parchg Beti-Wyn James annerch y cynulliad. Wrth adleisio neges Cymdeithas y Cymod, dywedodd ei bod hi’n hollbwysig nad ydym yn normaleiddio’r hyn sy’n digwydd, gan gofio mai pobl a theuluoedd sy’n dioddef yn bennaf yn y rhyfel hwn, fel ym mhob rhyfel.
Mynegodd dristwch fod blwyddyn gyfan wedi mynd heibio heb unrhyw ymdrech i ddod â’r ymladd i ben trwy drafodaeth ddiplomyddol. Dyna fydd yn siŵr o ddigwydd yn y diwedd, meddai. Ond yn y cyfamser mae cannoedd o filoedd o bobl gyffredin a milwyr wedi cael eu lladd neu’u clwyfo ar y ddwy ochr. Bu’r pris economaidd i’r gymuned ryngwladol yn sylweddol iawn hefyd. Dim ond trwy gymod y daw heddwch hir dymor i’r rhan yna o Ewrop.