Great men are almost always bad men, meddai Arglwydd Acton, un o feddylwyr mwyaf Oes Victoria. Almost always – ond nid wastad.

Un eithriad oedd Jimmy Carter, cyn-arlywydd America (1977-81), a fu farw’n 100 oed yn ddiweddar. Roedd Carter yn Gristion o argyhoeddiad dwfn, ac un o uchafbwyntiau fy mywyd i oedd cwrdd â fe yng nghapel bach anghysbell Soar-y-mynydd, fry yn y bryniau 10 milltir i’r de o Dregaron, ym mis Mehefin heulog 1986. Roedd ar wyliau yng Nghymru gyda’i gyfaill mawr Dr Peter Bourne, cyn Swyddog Iechyd Arbenigol yn y Tŷ Gwyn, oedd yn berchen ar fferm ei dad-cu yn ardal Llanddewi-Brefi. Ar ôl i mi ymddiheuro am darfu ar ei wyliau, cytunodd yn llawen i gael ei gyfweld ar gyfer Newyddion S4C. Yn ddyn hynod gwrtais a gwylaidd, fe ganmolodd brydferthwch Cymru a chroeso’r bobol, a dweud cymaint roedd e wedi mwynhau’r Noson Lawen y noson gynt. 

 

Cofio Tryweryn!

Roedd Jimmy Carter wedi treulio oes yn sefyll yn gadarn yn erbyn pob math o anghyfiawnder. Ar ôl cerdded ar draws argae anferth Llyn Brianne y bore hwnnw, gofynnodd i mi os oedd y dŵr yna i gyd yn mynd i Loegr. Atebais fod y rhan fwya o’r dŵr yna yn mynd i Abertawe. ‘I guess that’s OK then,’ atebodd gyda’r wên enwog. Roedd e’n amlwg yn gyfarwydd â’r hanes am foddi cymoedd fel Tryweryn i gyflenwi dŵr i ddinasoedd Lloegr. Ym 1973, fel Llywodraethwr Georgia, fe rwystrodd gynllun i godi argae ar draws yr Afon Flint, a fyddai wedi boddi tiroedd sanctaidd y llwythau brodorol. 

Llŵ Arlywyddol i’r Arglwydd

Ar hyd ei oes hir roedd gweithredu ei egwyddorion Cristnogol yn ganolog i bopeth wnaeth Jimmy Carter. Cymerodd y llw Arlywyddol ym 1977 ar Feibl oedd yn agored ar yr wythfed bennod o’r proffwyd Micha, lle mae’r adnod:  ‘Mae'r ARGLWYDD wedi dweud beth sy'n dda, a beth mae e eisiau gen ti: Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser, a byw'n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.’ Fel Arlywydd, bu’n gyfrifol am gytundeb Camp David, ddaeth â heddwch rhwng yr Aifft ag Israel. Arwyddodd gytundeb gyda Rwsia i gyfyngu ar arfau niwclear, a seilio perthynas newydd gyda China. Yn dilyn methiant trychinebus anfon hofrenyddion i Iran i achub 52 o wystlon ym 1980, gwrthododd Carter ddefnyddio grym milwrol anferth America yn erbyn y wlad honno – o bosib y prif reswm pam na chafodd ei ail-ethol yn fuan wedyn. ‘I could have wiped Iran off the map with the weapons that we had, but in the process a lot of innocent people would have been killed, probably including the hostages. Eventually my prayers were answered and every hostage came home safe and free’ meddai. Cymharwch hynny gydag ymdrech Benjamin Netanyahu i ryddhau’r gwystlon yn Gaza y dyddiau hyn trwy ddinistr erchyll sydd wedi lladd cymaint o bobol – gan gynnwys rhai o’r gwystlon a degau o filoedd o bobol ddiniwed. 

Heddwch a Hawliau Dynol

Tosturi a dyngarwch oedd sail bywyd Jimmy Carter. Ar ôl ei gyfnod yn y Tŷ Gwyn fe wnaeth fwy na’r un cyn-arlywydd arall erioed i hwyluso cymod a heddwch mewn sawl rhan o’r byd dolurus hwn, tra’n gweithio’n ddiflino dros hyrwyddo hawliau dynol. Am hynny, urddwyd ef a Gwobr Heddwch Nobel yn 2002. Tan yn gymharol ddiweddar bu’n athro Ysgol Sul oedolion, a hynny am ddegawdau lawer. Safai yn erbyn anghyfiawnderau o fewn ei enwad ei hun: y Southern Baptists, oedd yn ymwrthod â phobl hoyw ac yn rhwystro menywod rhag fod yn ddiaconiaid a gweinidogion. ‘Roedd Iesu wedi trin menywod yn gyfartal,’ meddai Carter. ‘Menywod oedd y cyntaf i dystio i’r Atgyfodiad. Rydym oll yn gyfartal yng ngolwg Duw.’

Dilyn Iesu

Dywedodd yr Arlywydd Joe Biden fod ei ragflaenydd yn cynrychioli'r gwerthoedd dynol mwyaf sylfaenol. Roedd e’n esiampl o sut i fyw bywyd o ystyr a phwrpas, a byddai’n dda petai bob un ohonom yn gallu bod ychydig yn fwy fel Jimmy Carter, meddai Mr Biden. Ymdrechu i fod ychydig yn fwy fel Iesu Grist, wnaeth James Earl Carter. Dilynodd ffordd tangnefedd a dyngarwch, ffordd tosturi ac awydd i helpu eraill mewn ffyrdd ymarferol – er bod glynu at yr egwyddorion Cristnogol hynny wedi arwain at golli ei swydd fel Arlywydd ym 1980.  Bydded i ninnau hefyd ddilyn y ffordd yna i mewn i’r flwyddyn 2025: ffordd yr Un a ddywedodd ‘Myfi yw’r ffordd, y gwirionedd a’r bywyd.’ Dymunaf Flwyddyn Newydd fendithiol i chi i gyd.  

Yn y llun ar ben y dudalen: Jimmy Carter, Dai Williams (fferm Brynteg, Cwrt-y-Cadno) ac Alun Lenny. 

Alun Lenny

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.