Yn y rhifyn diwethaf o’r Tyst roedd erthygl rymus ar y dudalen flaen gan Alun Lenny yn esbonio’n glir fod Llywodraeth San Steffan wedi gwneud penderfyniadau yn ddiweddar fydd â chanlyniadau pellgyrhaeddol a hynny mewn dwy ffordd.
Yn gyntaf, bydd y llywodraeth yn cynyddu’r gwariant ar arfau a’r lluoedd arfog a hynny ar draul gwasanaethau eraill. Ond yn ail bydd toriad mawr ar y gyllideb ryngwladol sy’n golygu y bydd dioddefaint rhai o bobl fwyaf bregus dynoliaeth yn cynyddu.
Hoffem eich annog, fel darllenwyr Y Tyst a'r wefan, i fynegi eich gwrthwynebiad i hyn trwy anfon llythyr/ e-bost fel unigolion ac eglwysi i’ch aelod seneddol. Isod y mae templed o lythyr pwrpasol wedi ei lunio gan Arfon Jones. Os hoffech gael gafael ar gopi digidol cysylltwch gyda ni trwy tyst@annibynwyr.cymru
Ysgrifennaf atoch ar ran aelodau eglwys ...
Rydym yn anfodlon iawn ac wedi’n tristáu’n fawr gan benderfyniad diweddar prif weinidog y DU i dorri cyllideb datblygu ryngwladol y DU i lawr i 0.3% o’r Incwm Gwladol Crynswth (GNI), toriad o tua £5.5 biliwn.
Credwn fod y gyllideb Cymorth Ryngwladol yn elfen hanfodol o gyfrifoldeb unrhyw genedl wâr i ofalu am y rhai hynny yn ein byd sy’n brin o fwyd a gofal iechyd digonol. Mae hefyd yn rhan annatod o’r frwydr yn erbyn canlyniadau newid yn yr hinsawdd ac yn bwysicach na dim yn yr ymdrech i sicrhau heddwch yn ein byd. Mae’r penderfyniad a wnaethpwyd gan y prif weinidog yn effeithio’n uniongyrchol ar filiynau o bobl sy’n byw mewn tlodi ledled ein byd.
Mae’r penderfyniad hwn nid yn unig yn niweidiol i’n cyd-ddyn, ond hefyd yn ddiffygiol yn strategol. Mae cymorth rhyngwladol gan y DU yn cryfhau iechyd pobl a diogelwch byd-eang. Dyma’r ffordd orau i wneud y byd yn lle mwy diogel i fyw ynddo. Bydd torri cymorth tramor i gymunedau ansefydlog yn cyfrannu at wneud ein byd yn fwy bregus pheryglus.
Addawodd y pleidiau Ceidwadol a Llafur ill dau yn eu maniffestos etholiad cyffredinol 2024 i adfer gwariant datblygu i 0.7% o’r Incwm Gwladol Crynswth, gyda Llafur yn benodol yn addo ‘adennill arweinyddiaeth fyd-eang Prydain ym maes datblygu’ Mae’r gostyngiad i 0.3% yn cynrychioli cefn’'n llwyr ar yr ymrwymiadau hynny.
Mewn cyfnod pan mae dioddefaint y tlodion yn ein byd yn dal i waethygu, mae torri cymorth tramor yn benderfyniad cwbl afresymol. Mae’n gam i’r cyfeiriad anghywir, ac yn tanseilio’r gwerthoedd gorau. Mae’r llywodraeth, drwy wneud hyn, yn troi cefn ar yr ymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi eithafol, newid hinsawdd ac ansefydlogrwydd byd-eang.
Fel AS [...] lle mae’n heglwys ni yn cwrdd i addoli, gofynnwn i chi alw ar y llywodraeth i wrthdroi’r toriadau trychinebus hyn i’r gyllideb ddatblygu.
Yr eiddoch yn gywir,