I achosion bach y dyddiau hyn lle mae chwech o addolwyr yn mwynhau dod ynghyd bob pnawn Sul, yn sicr gellir teimlo a diolch fod y ffyddloniaid yn derbyn bendith o gynnal oedfa.

Y fendith a’r pleser o gael sgwrs wyneb yn wyneb ar ddiwedd yr oedfa sydd yn brofiad hyfryd ac ysgafn ar ddechrau’r wythnos. Cyfle fel petai, i gael swig o’r awel o Galfaria, chwedl yr emynydd, yn ein balŵn ysbrydol!

Ond i weld bron i dri deg o bobl wedi dod ynghyd i gefnogi’r oedfa bnawn ddydd Llun Diolchgarwch yng nghapel Berea, Pentre Berw, i wrando ar y Parchedig Beti-Wyn James yn pregethu ar y testun, ‘Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.’ Roedd y profiad yn ysgafnach na’r arfer ac yn codi calon pawb! Gwelid sirioldeb yn llygaid y gynulleidfa wrth ddweud, ‘Toedd hi’n braf gweld cynulleidfa fel erstalwm?’ ‘Toedd hi’n braf cael llond capel o ganu?’ ‘Toedd hi’n braf cyfarfod Llywydd Cenedlaethol yr Annibynwyr?’ ‘Toedd hi’n braf mentro i wneud rhywbeth newydd yn lle aros yn disgwyl?’

Cynulleidfa amrywiol

Diolch i aelodau o gapeli o bob enwad, ymhell ac agos a ddaeth i gefnogi’r oedfa ar bnawn Llun, a diolch i Margaret a Donald am daflu eu rhwydau. Diolch i Alwyn ac Anwen am addurno’r capel gyda ffrwythau. Diolch i Evie Jones am drefnu’r gylchdaith er mwyn i’r Parchedig Beti-Wyn James bregethu mewn tri chapel ar yr ynys sef Paran, Berea a Dothan.

Y cefndir

Er gwybodaeth i eglwysi eraill. Cychwynnwyd eglwys Annibynnol Berea, Pentre Berw, fel ysgol Sul gan goliar o’r enw Roger Rowlands ar ei aelwyd sef Tŷ Coch canol. Gweithiai’r coliars yng ngwaith glo, Penrhyn Mawr ar ffin Cors Ddyga’ ym Mhentre Berw yn y cyfnod hwn. Holltwyd y cerrig o’r graig gerllaw gan y coliars rhwng stêm bore a nos a chariwyd hwy gyda cheffylau a throliau coch gan y ffermwyr i ‘r safle lle’r oedd yr adeiladwyr yn gweithio. Agorwyd yr achos gyda thair oedfa ar Sul braf ar ddechrau Medi 1839.

 

Er gwaetha’r ffliw a’r Covid

Diolch i Dduw – ’dan ni yma o hyd.

 

Donald Glyn 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.