Ar ddydd Sadwrn 22 Mehefin, aeth aelodau a chyfeillion Cymdeithas y Penrhyn, Penrhyn-coch ar eu trip blynyddol.
Dyffryn Nantlle oedd y gyrchfan y tro hwn o dan arweiniad medrus Dr Bleddyn Huws o Adran y Gymraeg, Prifysgol, Aberystwyth – yntau’n frodor o’r ardal. Er i ni ymweld â nifer o lefydd â chysylltiadau llenyddol, megis Tŷ’r Ysgol, Rhyd-ddu a Chae’r Gors, Rhosgadfan rhaid i mi gyfaddef mai’r hyn a wnaeth argraff arnaf ac a erys yn y cof yw stori Capel Drws-y-Coed.
Hanes yr achos
Codwyd y capel cyntaf ym 1836 i gynulleidfa o Fedyddwyr ac Annibynwyr ond ni pharhaodd yr undeb yn hir – aeth yn ddrwg rhwng yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr a daeth yr achos yn eiddo i’r Annibynwyr. Helaethwyd y capel ym 1878 ac yr oedd tua hanner cant o aelodau yn yr eglwys.
Yr hen gapel
Ond ar 17 Chwefror, 1892, disgynnodd craig fawr, yn pwyso tua 20 tunnell o ochr Clogwyn y Barcud trwy’r do’r capel gan ei ddifrodi..
Y difrod i do’r capel
Symudwyd ymlaen yn syth i gael capel newydd a sicrhawyd prydles gan y tirfeddiannwr ar ddarn o dir gyferbyn â’r hen gapel. Costiodd y capel newydd tua £700. Rhoddodd perchennog chwarel Penyrorsedd lechi am ddim ar gyfer to’r capel.
Y graig ar safle’r hen gapel
Ym 1962 daeth prydles y capel i ben, ond yn hytrach na chau’r drws, prynwyd y les gan Stad y Faenol am £100.
Bu’r Brodyr Francis (Griffith Francis (1876–1936) ac Owen Francis (1879–1936) yn byw yng Nghlogwyn Brwnt, Drws-y-Coed. Byddai’r ddau frawd yn canu mewn neuaddau ledled Cymru a thu hwnt a hwy oedd y rhai cyntaf i gymryd rhan mewn cyngerdd Cymraeg ar y radio. Mab un o’r brodyr oedd Dewi Francis, a fu’n brifathro yn ysgol gynradd Llanfawr, Caergybi. Bûm yn dysgu dau o blant Dewi – Hefin ac Eluned yn ysgol uwchradd Caergybi.
Plac Y Brodyr Francis ar y wal yn y capel– Owen (chwith), Bob Owen, eu cyfeilydd yn y canol a Griffith (de).
Bu Bob Owen yn organydd yng nghapel Drws-y -Coed am dros hanner can mlynedd.
Mae capel Drws-y-coed yn dal ar agor gyda 15 o aelodau, 6 o gyfeillion sy’n mynychu’n rheolaidd a rhai o’r ardal gyfagos sy’n ymuno â’r gynulleidfa o dro i dro ac mae’r capel bach yn talu eu tâl aelodaeth i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Oedfaon 2025
Cynhelir gwasanaethau am 2 o’r gloch y pnawn bob yn ail wythnos o fis Mai tan ddiwedd Hydref ac eisoes mae trefn Gwasanaethau 2025 wedi eu cwblhau:
Mai 25 – Y Bon. Robert Morris
Mehefin 8 – Parchg Dewi Morris
Mehefin 22 – Y Bonwr Dafydd Iwan
Mehefin 29 – Parchg Christopher Prew
Gorffennaf 6 – Parchg Iwan Llewelyn Jones
Gorffennaf 20 – Y Fon. Esyllt Maelor
Medi 14 – Parchg R. O. Jones
Medi 21 – Parchg Dr Rhys Llwyd
Hydref 5 – Y Bon. Richard Parry Jones
Hydref 19 – Y Bon. Robert Morris;
Hydref 26 – Parchg Iwan Llewelyn Jones (Gwasanaeth Diolchgarwch).
Edrychaf ymlaen at fynychu rhai o’r gwasanaethau’r flwyddyn nesaf – gwn y caf groeso yno. Mae nifer o eglwysi a gofalaethau yn trefnu pererindod yn ystod yr haf. Byddai croeso cynnes i chi ymuno â chynulleidfa Drws-y-Coed ar bnawn Sul. Cysyllter trwy e-bost â: o.jones041@btinternet.com
Hoffwn ddiolch i Mr Alwyn Jones, sy’n hanu o deulu Talymignedd, Drws-y Coed ac a fagwyd yn y capel am bob cymorth ac am dynnu rhai o’r lluniau. Diolch hefyd i’m ffrind, Nona Breese am bob help ac am addo llety i mi yn Llanfaglan pan fyddaf yn mynd i rai o’r oedfaon.
Menna Lloyd Williams,
Aberystwyth