Mae’n ffodus iawn bod y Parchg Aled Davies yn berson go gydnerth gan ei fod wedi cludo bocsys o lyfrau Cyhoeddiadau’r Gair o gwmpas Cymru i gapeli, gwyliau, eisteddfodau ac ati ers blynyddoedd.
Mae Cristnogion Cymru hefyd yn ffodus dros ben bod y math amrywiaeth cyfoethog o lyfrau ar gael i blant ac oedolion. Cwrdd Chwarter Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin yn Elim, Ffynnon-ddrain ar gyrion tre Caerfyrddin oedd pen draw ei daith hir o Benrhyn Llŷn ar bnawn heulog 13 Mawrth.
Amrywiaeth ddefnyddiol iawn
Ar ôl i Jean Lewis, cadeirydd y cyfundeb, groesawu Aled fe gafwyd esboniad o amrywiaeth y llyfrau a’u pwrpas ganddo. Er enghraifft, mae tair cyfrol o waith John Lewis Jones (Agorwn Ddrysau Mawl, Coronwch Ef yn Ben, a Tymhorau Gras) yn cynnwys oedfaon parod i’w defnyddio petai rhwystr o ryw fath i bregethwr gwadd gyrraedd ar y funud olaf. O gael ychydig mwy o amser i aelodau baratoi, gellir defnyddio tair cyfrol (Gweddïau Cyhoeddus, Myfyrdodau Cyhoeddus, a Geiriau Cyhoeddus) sy’n cynnwys tair gweddi, tri myfyrdod, a thri darlleniad sydd i gyd yn ymwneud â’r un testun er mwyn dewis a dethol ar gyfer llunio oedfa. Mae Yr Enw Mwyaf Mawr gan Huw John Hughes yn fyfyrdodau ar yr enwau gwahanol ar Iesu Grist, a Pererin Wyf yn ymwneud â dilyn Iesu heddiw. Yn naturiol, mae cyfrolau o ddefosiwn ar gyfer y Nadolig, Y Pasg, a Diolchgarwch.
Themâu arbennig
Cyfrol o fyfyrdodau byrion ar 40 o ferched yn yr Hen Destament sydd a’u hanes yn berthnasol inni heddiw yw Codi’r Llen, tra bod Emynau’r Ffydd yn cynnwys myfyrdodau ar emynau a geir yng Nghaneuon Ffydd. Myfyrdodau byrion gan Elfed ap Nefydd Roberts yw Gwerth y Funud Dawel, a chyfrol o fyfyrdodau i’w defnyddio mewn Oedfa Gymun yw Gwnewch hyn ... gan Beti-Wyn James, a oedd wedi darllen a gweddïo ar ddechrau cyfarfod y pnawn yn Elim.
Cyfrolau am weddïo
Soniodd Aled am y gwahaniaeth rhwng y weddi ddistaw, bersonol, a’r weddi gyhoeddus. Daw’r un dawel o’r tu fewn inni, ac yn aml nid oes geiriau iddi. Ar y llaw arall, daw’r un gyhoeddus yn aml o lyfr, ond mae’n werth gadael amser tawel yn ystod y weddi honno hefyd. Ac mae modd hefyd ei diweddaru, e.e. trwy ymbil dros lefydd lle mae rhyfela cyfredol. Mae’n bosib defnyddio gweddi mewn llyfr yn ffrâm i’n helpu ni i leisio gweddi sy’n addas i’n sefyllfa ni heddiw. Ceir holl weddïau Elfed ap Nefydd Roberts yn y gyfrol Cymer fy Munudau, y llyfr gorau o’i fath erioed ym marn Aled. Ymhlith eraill mae Gweddïo’r Salmau gan Euros Jones Evans, Gweddïau Heddwch a Chyfiawnder gan Guto Prys ap Gwynfor, a Mil a Mwy o Weddïau gan y diweddar Ddr Edwin Courtney Lewis. Erbyn hyn ceir nifer cynyddol o adnoddau ar wefan gair.com. Mae yno fyfyrdodau a gweddïau, ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho yn rhatach na’u prynu hwy mewn print. Hefyd, mae modd amrywio maint y print ar y we. Bu’r sesiwn yn Elim yn un defnyddiol ac ymarferol dros ben, a diolchwyd o galon i Aled Davies am ddod atom ni.
(Bydd mwy o hanes y Cwrdd Chwarter, gan gynnwys cymeradwyo pregethwr cynorthwyol newydd mewn rhifyn pellach o’r Tyst.)
Joan Thomas, Cofnodydd y Cyfundeb