Bu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a Choleg yr Annibynwyr Cymraeg yn cydweithio ym maes hyfforddiant ers blynyddoedd.
Amcan y ddau sefydliad yw gwasanaethu’r eglwysi er mwyn eu galluogi i gyflawni eu cenhadaeth yn y Gymru gyfoes. Eisoes cafwyd peth llwyddiant o ganlyniad i’r cydweithio, a llwyddwyd i godi nifer o weinidogion, o bregethwyr ac o arweinyddion lleol i wasanaethu’r eglwysi.
Mae’r daflen yn y darlun yn esbonio pa ddarpariaeth sy’n cael ei chynnig ar gyfer addysgu a hyfforddi unigolion a chynulleidfaoedd. Gelli’r archebu copi/copïau o’r daflen drwy’r adran ‘Adnoddau’ ar y wefan hon.
Mae dau fath o hyfforddiant.
- Hyfforddiant ffurfiol ar gyfer gwaith y weinidogaeth Gristnogol neu ar gyfer sicrhau cymhwyster fel Pregethwr Cynorthwyol. Coleg yr Annibynwyr Cymraeg sy’n gyfrifol am y cyrsiau hyn, ac os oes diddordeb gennych mewn dilyn cwrs, dylid cysylltu â’r Parchg Aled Jones (parch.aled@yahoo.co.uk)
- Hyfforddiant anffurfiol ar gyfer sicrhau gwell dealltwriaeth o’r ffydd, o natur eglwys, o ddulliau cenhadu, o ddyletswyddau swyddogion eglwys, a phynciau tebyg. Yr Undeb sy’n darparu’r math hwn o hyfforddiant. Os â diddordeb mewn trefnu neu gynnal cyrsiau o’r fath, dylid cysylltu â’r Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchg Dyfrig Rees trwy anfon e-bost at dyfrig@annibynwyr.org neu ffonio Tŷ John Penri ar 01792-795888.