Mae’r stori hon yn tystio pa mor beryglus y gall tramwyo hen fynwentydd fod, a gwerth amhrisiadwy ffôn symudol pan mae rhywun yn mynd i drafferth. Braf dweud bod diwedd hapus i’r hanes. Geraint Tudur yw ein ‘gohebydd arbennig’. 

Dychryn i lawer ohonom sy’n dilyn hynt a helynt ein gilydd ar Facebook oedd darllen am brofiad brawychus Menna Lloyd Williams, Penrhyn-coch, cyn-aelod o dîm golygyddol Y Tyst, ym mynwent Eglwys Santes Gwenfaen, Rhoscolyn ar Ynys Môn, yn ddiweddar.

Yno, meddai, y claddwyd hen-daid, hen-nain a hen ewythr iddi, a’i bwriad wrth fynd yno oedd glanhau’r cerrig beddau. Fodd bynnag, syrthiodd ‘yn glewt’ rhwng y beddau, a methu â chodi. Ceisiodd lusgo ei hun i fyny trwy afael mewn hen garreg fedd oedd yn ymddangos yn weddol gadarn, ond syrthio yn ôl fu ei hanes er gwaethaf pob ymdrech. Bu’n gweiddi am help, ond i ddim pwrpas; nid oedd neb yno i’w chlywed.

Samariaid Trugarog yr Eryr Wen

Ffonio perthnasau lleol ar ei ffôn symudol wedyn, a diolch ei bod wedi mynd a’r ffôn gyda hi y diwrnod hwnnw, rhywbeth nad yw’n ei wneud bob amser. Ond hir pob aros hyd yn oed wedyn, a dechreuodd feddwl nad oedd ei pherthnasau byth am gyrraedd! O edrych o’i chwmpas, gweld bwyty’r White Eagle ar draws y caeau. Llwyddodd i ffonio hwnnw, ac esbonio yn union ble yr oedd a beth oedd wedi digwydd. Ymhen ychydig, ymddangosodd tri o staff y bwyty – y chef a dwy o’r merched – a’r chef yn cario cadair iddi gael eistedd arni, a photel o ddŵr a dogn o siwgr i’w hadfywio, cyn cynnig mynd â hi i’r ysbyty.

Dod dros y profiad

Ymddangosodd ei pherthnasau hwythau foment yn ddiweddarach, ac wedi byr amser, yr oedd Menna wedi dod dros ei braw a’i dychryn ac yn abl i gerdded o’r fynwent.

Er bod diwedd hapus i’r stori, mae yma wers hefyd; os oes gennych ffôn symudol, cariwch ef yn eich poced neu eich bag pan fyddwch yn mynd i grwydro. Ni wyddoch pa bryd y byddwch ei angen, na pha bryd y gall, mewn sefyllfa ddifrifol, fod yn fodd i achub eich bywyd!

 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.