Erbyn hyn mae’r eglwysi ledled Cymru wedi cael cyfle i bori yn y llawlyfr Heulwen dan Gymylau a drosglwyddwyd iddynt yn dilyn y Cyfarfodydd Blynyddol yng Nghaerfyrddin llynedd.
Ers hynny, gwahoddwyd cynrychiolydd o bob Cyfundeb i ymuno mewn cyfres o gyfarfodydd rhithiol i drafod y camau nesaf, a chafwyd sesiynau wyneb yn wyneb mewn sawl lleoliad i edrych yn fanylach ar y cynnwys.
Cyfarfod buddiol
Cafodd Emlyn Davies a Rhodri-Gwynn Jones, dau o’r gweithgor a fu’n gyfrifol am lunio’r llawlyfr, eu croesawu i Gwrdd Chwarter Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin yn Smyrna, Llangain ar 9 Mawrth. Daeth criw teilwng ynghyd i gael eu tywys gan y ddau drwy’r gwahanol adrannau, a chafwyd cyfarfod buddiol tu hwnt. Wrth gydnabod y croeso, dywedodd Emlyn mai breuddwyd y gweithgor yw gweld pob cyfundeb yn perchnogi’r cynllun, ac yn troi’r ffeil yn rhaglen waith ymarferol wrth gefnogi’r ymgyrch Eglwysi Dementia-gyfeillgar.
Tri chwestiwn sylfaenol
Eglurodd mai pwrpas y cyflwyniad oedd ateb tri chwestiwn sylfaenol, sef :
- Beth yw nod yr ymgyrch Eglwysi Dementia–gyfeillgar?
- Pa adnoddau sydd ar gael?
- Beth sy’n ddisgwyliedig gan yr eglwysi unigol?
Pwysleisiwyd mai’r her i bob eglwys yw creu man diogel i rai sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr, ac fe wyddom i gyd fod ein capeli mewn sefyllfa gref iawn i wireddu’r nod honno, gan ein bod yn gymuned ofalgar wrth natur, gydag ystod eang o dalentau a phrofiad ymhlith ein haelodau, ac mae gennym adeiladau a chyfleusterau eraill y medrwn ni eu defnyddio at ddibenion da.
Cyfle i fod yn fwy uchelgeisiol
Eglurodd y ddau siaradwr fod y ffeil ei hun yn hunangynhaliol os mai dyna’r dymuniad. Hynny yw, does dim angen unrhyw beth arall ar unrhyw eglwys i weithredu. Ond mae yna hefyd gyfle i fod yn fwy uchelgeisiol, oherwydd i gyd-fynd â’r ffeil mae yna nifer o adnoddau a phethau ychwanegol ar gael ar wefan Undeb. Mae modd dewis o blith nifer o ddolenni sy’n ein tywys i wefannau eraill i gael rhagor o wybodaeth, i weld ambell i fideo ac i glywed cerddoriaeth,
Os oes unrhyw gyfundeb arall yn dymuno cael sesiwn debyg, mae croeso iddyn nhw gysylltu ag aelodau’r gweithgor drwy swyddfa’r Undeb yn Nhŷ John Penri.