Cafodd ffenestr hardd ei dadorchuddio yng nghapel Saron, Creunant i ddathlu 120 o flynyddoedd ers sefydlu’r achos.

Daeth cynulleidfa fawr i lenwi’r capel ar ddydd Sul 4 Chwefror er mwyn dathlu’r achlysur arbennig yma, gan gynnwys Maer Castell-nedd Port Talbot a chynghorwyr yr ardal. 

Diolchwn am y nawdd gan Dreftadaeth Cyngor Castell-nedd a wnaeth hyn yn bosib a hefyd i’r arlunydd, Jane Carpenter o Bontardawe (yn y llun) am waith dylunio bendigedig gyda’r ffenestr hardd sydd yn dathlu bywyd yr eglwys yn y gymuned.

Prif thema’r ffenestr yw ‘bendithion Duw’ gyda’r afon, sef Afon Dulais, yn amgylchynu’r capel o’r top i’r gwaelod. Dyna yn wir yw ein gweddi eleni: 

 ‘Pwy bynnag sy’n sychedig, deued ataf fi ac yfed.’ 

(Ioan 7:37)

 

 

W. Rhys Locke

 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.