Bydd dydd Sul 29ain o Hydref, 2023, yn garreg filltir arall yn hanes y frwydr yn erbyn dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau ac ymddygiadau niweidiol eraill yng Nghymru.

Unwaith eto eleni, nodwyd Sul fel Sul Adferiad i annog eglwysi nid yn unig i ystyried sefyllfa’r rhai sy’n dioddef o ddibyniaeth o ryw fath, i ddysgu mwy am eu sefyllfa, eu hangen a’r help sydd ar gael trwy ymdrechion mudiadau megis Adferiad, y Stafell Fyw, Cynnal, Enfys, a chyflenwyr eraill. Mae hefyd yn gyfle  i weithredu yn ymarferol i estyn cymorth. Gall y cymorth olygu cyfraniad ariannol tuag at y gwaith i rai, tra y bydd eraill yn cymryd sylw newydd o’r anogaeth sydd yn Hebreaid 13, 3 “Daliwch ati i gofio’r rheiny sy’n y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain!” Efallai mai carchar llythrennol sydd dan sylw awdur y llythyr at yr Hebreaid, ond ar Sul Adferiad cofiwn fod caethiwed dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau, bwyd, rhyw, gamblo a mwy, yn garchar i gymaint o bobl heddiw

Mae’r gwasanaeth wedi ei baratoi gan y Parch Ganon Ddr Trystan Owain Hughes, a bydd yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru ar fore Sul 29ain o Hydref - a bydd croeso i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yn eich eglwysi. Mae ar gael i’w lawr lwytho yma.

“Flynyddoedd yn ôl, ar ddechrau fy ngweinidogaeth, roeddwn i’n arwain oedfa mewn cartref gofal. Darllenais ran o Efengyl Mathew yn hyderus: ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.’ Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysicaf. Ac y mae'r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’  Yn hollol ddirybudd, gwaeddodd gwraig oedrannus o gefn yr ystafell: “Dydw i ddim yn caru fy nghymydog”. Wyddwn i ddim beth i’w ddweud. Edrychais ar y gofalwyr, edrychodd y gofalwyr arnaf i. Ond yn ystod y cyfnod byr yna o dawelwch cafodd y wraig gyfle i ychwanegu: “a gwranda di, ficer, petai ti’n ei nabod hi, byddet ti ddim yn ei charu hi chwaith!”

Roedd y wraig wedi taro ar wirionedd oesol, wrth gwrs – mae’n haws pregethu am gariad a thrugaredd na rhoi’r rhinweddau hyn ar waith yn ein bywyd.”

Dyma ddeuddegfed Sul Adferiad Cymru. Ar y Sul hwn, gwahoddwn Gristnogion Cymru i uno mewn gweddi dros y rhai sy’n gaeth, yn ddibynnol; gan ofyn i Dduw ein helpu ni i’w helpu nhw.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.