Ar ôl bod yn rhannu eu hoff  rannau o'r Beibl gydag aelodau sy'n methu dod i'r cwrdd ar y Sul neu sy'n byw yn bell, mae aelodau pum capel yn Sir Gâr yn ymestyn yr un cynnig i ddarllenwyr Y Tyst, y wefan a phobol ym mhob man.

Mae cyfrol o weddïau gan blant Ysgol Hafodwenog ar gael ar ffurf dogfen pdf. Mae'n gynnyrch ymweliadau Karen Owen â'r ysgol i drafod sut mae siarad.gyda Duw yn ein dyddiau ni.

Hefyd ar gael - am ddim - ac ar ffurf ffeil mp3, y mae 'Iesu a'r Gair yn llais Sir Gâr', sef casgliad o leisiau aelodau yn cyflwyno eu hoff adnodau. Mae'n gasgliad o dros 30 o hen ffefrynnau - o Salm 100 i Datguddiad 22.

"Mae hi mor bwysig fod pawb yn cael clywed a pherchnogi Y Beibl yn ei acen ei hun," meddai Karen Owen, gweinidog gofalaeth Trelech a chyn-gynhyrchydd rhaglenni crefydd BBC Cymru.

"Fuodd recordio ein lleisiau i safon uchel erioed mor rhwydd ag y mae ar hyn o bryd, ac mae cynnal sesiynau  recordio wedi bid yn brofiad cymdeithasol iawn.

"Dim ots beth oedd dewis ddarnau pawb, doedd yna ddimbarnu na sensro... ac mae yna ambell ddewis annisgwyl."

Mae Karen yn gofalu am Gapel y Graig, Trelech; Capel Pen-y-bont; Ffynnonbedr, Meidrim; Bwlchnewydd a Chapel Cendy.

Yng Nghapel Cendy y dewisodd Lleuwen Steffan ddechrau ei thaith o Gymru ar Chwefror 13.

Os am dderbyn y gweddïau a/neu y darlleniadau, anfonwch at Karen ar dimondkaren@hotmail.com.

 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.