Llawenydd mawr i aelodau a chyfeillion eglwys Heol Awst, Caerfyrddin ynghyd â Maer a Maeres y Dref oedd uno mewn dathliad arbennig iawn bnawn Mawrth 8 Hydref ar achlysur pen-blwydd un o ddiaconiaid yr eglwys, Mr Brinley Enoch yn 100 oed. 

Roedd byrddau’r festri yn wledd i’r llygad, diolch i dîm ardderchog o chwiorydd yr eglwys, a phawb wedi cyd-dynnu er mwyn gwneud yn siŵr bod y prynhawn yn ddathliad haeddiannol i fonheddwr sy’n uchel iawn ei barch yn ein golwg ni i gyd. 

Sefydlu busnes teuluol

Un o Benygroes, Sir Gaerfyrddin yw Brinley Enoch a anwyd ar 4 Hydref 1924. Cyfrifydd oedd wrth ei alwedigaeth a sefydlodd fusnes ei hun yng Nghaerfyrddin – busnes sy’n dal i fod yn nwylo gofalus y teulu gan i’w fab a’i ŵyr ddilyn ôl troed eu tad a’u tad-cu. 

Presenoldeb ffyddlon 

Afraid dweud fod Brin wedi gweld newidiadau mawr yn ystod ei oes hir, ond llwyddodd i addasu yn rhyfeddol gyda threigl y blynyddoedd ac mae’n dal i ddysgu o hyd gan feistroli’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf er mwyn gwrando ar oedfa ddigidol yr ofalaeth ar ei liniadur bob bore Sul! Mae’n bresenoldeb ffyddlon yn yr oedfaon yn Heol Awst ynghyd â digwyddiadau cymdeithasol yr eglwys, ac rydym yn elwa’n fawr o’i brofiad a’i ddoethineb mewn trafodaethau yn ein cyfarfodydd diaconiaid. Yn sgwrsiwr deallus a difyr ac yn meddu ar gof rhyfeddol, mae Brin yn ŵr gwybodus sy’n parhau i ychwanegu at ei wybodaeth drwy ddarllen yn eang a chadw ei ddiddordeb yn nigywddiadau’r dydd. Does rhyfedd nad yw’n edrych ei oed!

Beibl a char open-top

Wedi i’n gweinidog, Y Parchg Beti Wyn James ei gyfarch ar ran aelodau a chyfeillion eglwys Heol Awst, gwahoddwyd Brin i dorri’r gacen ben-blwydd arbennig a baratowyd ar ei gyfer. Roedd dwy ddelwedd bwysig sy’n nodweddiadol o fywyd Brin ar y gacen – car open top coch y gwelir Brin yn ei yrru’n ofalus o’r tŷ i’r capel! – a hefyd Beibl, a fu – ac sydd o hyd – yn ‘llusern i’w draed ac yn llewyrch i’w lwybr’. 

Bonheddwr wrth natur a Christion trwy ras yw ef. Dymunwn ben-blwydd hapus iawn i Brinley Enoch a diolchwn am y fraint o gael dathlu’r garreg filltir bwysig hon yn ei gwmni. 

 

BWJ 

 

 

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.