Yn ystod 2023 bu pedwar o aelodau Capel Libanus yn dathlu eu pen-blwydd yn 90 oed.
Tro John Jones oedd hi ar 21 Rhagfyr a chynhaliwyd te dathlu iddo wedi oedfa’r Nadolig. Cyflwynwyd anrheg oddi wrth yr aelodau fel arwydd o’n gwerthfawrogiad am ei gyfraniad i’r achos dros y blynyddoedd. Bu’n drysorydd cydwybodol am nifer fawr o flynyddoedd yn ogystal â gofalu am fanc yr ysgol Sul gyda’i wraig Jean. Iechyd da iddo yn 2024.
Diolch i Gwenda Davies ac Anne Hussey am addurno’r capel a’r festri ac am baratoi’r lluniaeth ysgafn. Bore hyfryd iawn.
Gwasanaeth y Nadolig
Cynhaliwyd gwasanaeth i ddathlu’r Nadolig fore Sul, 17 Rhagfyr. Thema’r oedfa a drefnwyd gan Deryth Davies oedd mai genedigaeth yr Iesu oedd anrheg bwysicaf Duw i ddynoliaeth. Roedd yn braf gweld cymaint o’n haelodau yn cymryd rhan a hyfrydwch oedd clywed datganiad cerddorol gan un o’n haelodau hynaf sef John Jones a darlleniadau gan y ddwy ieuengaf, Ffion a Mari Thomas. Derbyniodd y plant a’r bobl ifainc eu hanrheg Nadolig oddi wrth y capel ynghyd â chwdyn o ddanteithion gan gwmni Asda trwy law Mr Lyndon Thomas.
Gweu a chrosio i godi arian
Mae tlodi mawr yn ardal Llanelli ac mae’r aelodau’n teimlo ei bod yn bwysig cefnogi gwaith un o’r pum banc bwyd sydd yn y dref sef Banc Myrtle House. Diolch arbennig i Elizabeth Thomas am weu a chrosio dwsinau o deganau ac addurniadau Nadolig i’w gwerthu er budd yr achos. Roedd y doreth o anrhegion a brynwyd gyda’r arian yn ychwanegol at ein casgliad bwyd misol arferol. Diolch i Deryth Davies am gydlynu’r cyfan.
Linda Sidgwick, Ysgrifennydd