Llongyfarchiadau i'r Parchg Emyr Lyn Evans am gyflawni chwechdeg mlynedd fel gweinidog yr Efengyl.

Ordeiniwyd pedwar o fyfyrwyr Coleg Coffa Abertawe yn 1964 yn cynnwys Emyr Lyn Evans a’r diweddar James Henry Jones, J. Towyn Jones a T. Alwyne Williams. Cafodd Emyr ei godi i’r weinidogaeth yn eglwys Bwlch-y-groes, Ceredigion o dan weinidogaeth y Parchg W. Rhys Nicholas a fyddwch chi ddim hir yn ei gwmni i sylweddoli dylanwad ei dad yn y ffydd. Byddai’n galw yn Llaindelyn bob dydd Gwener ar y ffordd adref o’r coleg a derbyn cynghorion fu’n gymorth mawr iddo gydol ei weinidogaeth.

Ry’m ni sydd yn gyn-fyfyrwyr y Coleg Coffa yn fythol ddyledus am yr hyfforddiant a gawsom gan y Prifathro Dr Pennar Davies a’r Athrawon D. J. Davies, Trevor Evans a D. P. Roberts ynghyd â chymdeithas arbennig y coleg.

Yn 1964 ordeiniwyd Emyr ar eglwysi’r Green, Fforddlas a Waungoleugoed yn nyffryn clodfawr Clwyd a chael y Parchg Tom Thomas, gweinidog Lôn Swan, yn fentor ardderchog. 

Yn dilyn rhai blynyddoedd symudodd i Gibeon, Bancyfelin a Ffynnhonbedr, Meidrim a phriodi Susan, un o ferched glân Ebeneser Castellnewydd, ac yno y ganwyd Iestyn. Cafodd alwad wedyn i Ebeneser Abergwili a Phant-teg yn olynydd i’r Parchg Moelwyn Daniel ac ymhen y rhawg ychwanegwyd Siloam, Pontargothi at yr ofalaeth. Gwasanaethodd yr holl eglwysi yn hollol gydwybodol. Mae’n dal mewn cysylltiad agos â’r pedair eglwys ac ar Sul olaf Medi gweinyddodd wasanaeth bedydd yn eglwys hynafol Pant-teg.

Ar ôl symud i Abergwili apwyntiwyd ef yn gaplan rhan amser yn Ysbyty Glangwili a gwyddom fod pennaeth y gaplaniaeth y Parchg Euryl Howells yn fawr ei werthfawrogiad o gymorth Emyr yn ôl y galw.

Llongyfarchwn Emyr ar y dathliad a dymunwn fendith Duw arno ef a Susan. Diolch am gyfeillgarwch sydd yn ymestyn yn ôl i ddyddiau ysgol a choleg.

Gareth Morgan Jones

 

Emyr - Ar ddathlu 60 mlynedd 

 Mae rhyw ddawn a chyflawnder – mwyn o dwym

  yn dy hiwmor tyner,

      ym mhob poen ac ym mhob her

      yn fendith o addfwynder.

 

 John Gwilym Jones

 

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.