Dechrau Hydref, a dechrau cyfnod newydd yn hanes y Parchedig Gareth Edwards.

Ar fore Sul, 1 Hydref 2023, traddododd y Parchedig Gareth Edwards ei bregeth olaf fel gweinidog yn y Capel Coffa (A) Cyffordd Llandudno. Ar ddiwedd yr oedfa manteisiwyd ar y cyfle i gyfleu gwerthfawrogiad iddo am ei wasanaeth dros y tair blynedd ar ddeg y bu’n gweinidogaethu yno. Darllenwyd crynodeb o’i hanes a theyrnged i Gareth gan Carol Edwards. Soniodd fel y gadawodd Gareth fro ei febyd i dreulio amser ym Mangor lle graddiodd yn y Gymraeg, ac wedyn i Aberystwyth lle cymhwysodd i’r weinidogaeth cyn ennill gradd BD yn Abertawe.

Bu Gareth yn weinidog yr Efengyl am gyfanswm o hanner cant a thair o flynyddoedd. Treuliodd gyfnodau fel gweinidog yng nghylchoedd Cwm Tawe, Porthmadog, a’r Wyddgrug, yn ogystal â chyfnod yn Ysgrifennydd Cyffredinol i’r Presbyteriaid yng Nghaerdydd. Er mai ond ‘rhan amser’ oedd ei gytundeb yng Nghapel Coffa, rhoddodd weinidogaeth gyfoethog a gwerthfawr, gan fod yn ofalgar iawn o’i braidd, ac roedd bob amser ar gael.

Ar ran yr aelodau cyflwynwyd tysteb i Gareth ynghyd â theyrnged bersonol gan Sam Owen, diacon hynaf yr eglwys, a rhodd o flodau i Margaret ei briod gan y diacon ieuengaf, Heledd Cressey.

Yn dilyn y gwasanaeth cafwyd paned a chacen arbennig yn yr ysgoldy, pryd yr oedd cyfle i bawb gymdeithasu a hel atgofion gyda Gareth a Margaret, a chyfle i ddymuno hir oes o iechyd a hapusrwydd i’r ddau.

Dyma englyn a gyfansoddwyd gan y Parchedig Desmond Davies, Caerfyrddin, cyfaill mynwesol i Gareth ers dyddiau coleg ym Mangor:

 

I’th gyfarch ar dy ymddeoliad, Gareth

 

Yn goeth yn dy bregethau – heb atal

Yn ateb galwadau;

     Gareth, rhoddaist y gorau

      Ac mae’n ddydd i ymryddhau.

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.