Roedd hi’n braf gweld cynulleidfa dda wedi ymuno i ddathlu dydd ein nawddsant, Dewi. Gwasanaeth gan blant ac ieuenctid y capel a gafwyd wedi’i drefnu gan Marie-Lynne, a diolch iddi. Pleser oedd gwrando ar y cyfraniadau.
Cafwyd unawdau, adroddiadau, darlleniadau, eitemau offerynnol, cyflwyniad fideo a chwis am ddyddiadau arbennig yn hanes ein gwlad. Lluniwyd hyn gan Meinir Jones, un o athrawon gweithgar yr ysgol Sul. Dysgwyd llawer trwy’r cwis gan yr holl aelodau a llongyfarchiadau i dîm Candelas!
Mae blwyddyn bellach wedi pasio ers dechrau’r rhyfel erchyll yn Wcráin. Yn ystod y gwasanaeth cafwyd munud o dawelwch i gofio a myfyrio am sefyllfa drychinebus y wlad a gweddïo am heddwch. Flwyddyn yn ôl, cyfansoddwyd cerdd gan Delyth Mai, ‘Gweddi Dros Wcráin’. Gosodwyd y gerdd i gerddoriaeth gan Eric Jones ein horganydd a chafwyd perfformiad teimladwy gan Siân Howells. Fore Mercher, 1 Mawrth, tro aelodau’r Clwb Babanod oedd hi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Hyfryd oedd gweld nifer o neiniau a theidiau wedi galw i mewn am ddisgled, pice ar y maen a bara brith. I orffen ein dathliadau, roedd y festri dan ei sang am noson o gawl a chân. Diolch i Gwenda, Anita a’r tîm am baratoi gwledd o gawl a phastai ac i Leisiau Lliw am yr adloniant.
Diacon newydd.
Ar fore Sul, 5 Chwefror, yn ystod y gwasanaeth cymun, derbyniwyd Gareth Williams yn ddiacon yng nghapel Hope-Siloh, Pontarddulais. Dymunwyd pob bendith iddo gan ein gweinidog wrth iddo ymgymryd â’i ddyletswyddau newydd o fewn bywyd y capel.
Jennifer Clark