Daeth neges o Fadagascar gan ein cyfaill Lala Rasendrahasina sydd bellach ar staff coleg diwinyddol yr FJKM (sef, Fiangonan'i Jesoa Kristy eto Madagasikara sef ‘Eglwys Iesu Grist ym Madagascar’).
Neges Lala Rasendrahasina
A wnewch chi, os gwelwch yn dda, weddïo dros Fadagascar, ei phobl a’r Eglwys yma, wrth i ni ymgodymu â meddwl Duw, a cheisio’i ddeall?
Ar hyn o bryd, mae’r sefyllfa wleidyddol yma yn dirywio gan fod anghydweld dwfn ynglŷn â’r etholiad Arlywyddol sydd i’w gynnal y mis hwn. Mae gorymdeithiau mawr, ond heddychlon, wedi eu cynnal ymhob rhan o’r ynys dan arweiniad y deg ymgeisydd etholiadol, ac mae’r llywodraeth wedi ymateb iddynt gyda thrais yn erbyn y tyrfaoedd, a hynny’n arwain at lawer yn cael eu dolurio a’u gymryd i’r ddalfa.
Yr unig beth y mae’r bobl yn gofyn amdano yw etholiad tryloyw, teg a chywir fel y gall y canlyniad fod yn dderbyniol i bawb.
Mae ein dyfodol yn ansicr. Mae Cyngor Eglwysi Cristnogol Madagascar yn ceisio gweithredu fel canolwr rhwng y ddwy blaid (yr un sy’n cefnogi’r cyn-Arlywydd a ddaeth i rym trwy’r coup d’état yn 2009, a’r wrthblaid). Gwn fod eglwysi yn y Deyrnas Gyfunol sydd mewn partneriaeth â ni yma, ac yn arbennig felly chwi fel Annibynwyr Cymru. Gweddïwch drosom, os gwelwch yn dda.
Mae’r tensiwn yma’n fawr ond credwn fod y gair olaf gan Dduw, a’i fod ef yn goruwchlywodraethu.
Mae’r cyn-Arlywydd (y bu’n rhaid iddo roi heibio’r swydd er mwyn medru sefyll yn yr etholiad) yn dal i reoli’r llywodraeth ac mae’n cefnogi’r defnydd o drais yn erbyn y boblogaeth.
Mae democratiaeth a rhyddid mynegiant bellach wedi ei sathru dan draed.
Mae’n amlwg fod y dyddiau hyn yn rhai blin ar yr Ynys Fawr. Gallwn synhwyro’r pryder wrth ddarllen geiriau Lala. Ynghanol yr holl drybini sydd yn y byd ar hyn o bryd, cofiwn am Fadagascar, a gweddïwn drosti fel gwlad.