Eleni, ar 7 Mawrth, bydd pobl o gwmpas y byd yn ymuno i weddïo mewn gwasanaeth sydd wedi ei baratoi gan ferched Cristnogol o Ynysoedd Cook ar y thema: Rwyf wedi eich gwneud yn rhyfeddol.

Mae Ynysoedd Cook yn cynnwys 15 ynys wedi’u gwasgaru dros 2 filiwn cilomedr sgwâr o fewn y Cefnfor Tawel ac yn 2021 dathlwyd 200 mlwyddiant dyfodiad Cristnogaeth trwy genhadon Cymdeithas Genhadol Llundain. Erbyn heddiw mae dros hanner y boblogaeth yn perthyn i eglwysi Cristnogol.

Trwy eiriau o Salm 139, wedi eu gwau o fewn storïau tair merch Gristnogol, mae’r gwasanaeth o addoliad yn ein gwahodd i gydnabod bod Duw wedi creu pob un ohonom gyda gofal a chariad, ein bod yn unigryw ac yn arbennig. Meddent, ‘Mae Duw yn ein hadnabod yn bersonol ac rydyn ni’n arbennig i Dduw am ein bod yn unigryw. Pan fyddwn yn agor drysau ein calonnau i’r gwirionedd hwn, mae popeth yn ein bywyd yn newid. Rydym yn gynnes y tu mewn ac yn dechrau trin pobl eraill fel plant annwyl i Dduw. Drwy’r gwasanaeth hwn gobeithio y bydd pobl yn cael eu dyrchafu’n ysbrydol wrth iddyn nhw ddod i ymddiried yng nghariad mawr Duw.’

Beth amdani?

Os nad yw eich capel chi wedi ymuno yn Nydd Gweddi’r Byd o’r blaen, beth amdani? Mewn sawl ardal mae capeli ac eglwysi’n dod at ei gilydd i gynnal gwasanaeth. Mae adnoddau deniadol sydd am ddim ar gael ar gyfer cynnal y gwasanaeth. Mae taflen gyda’r gwasanaeth llawn ar gael ynghyd â chyflwyniad PowerPoint. Mae gwybodaeth am Ynysoedd Cook hefyd ar gael ar PowerPoint ynghyd â sgript. Yn ogystal, mae yna daflen gweithgareddau plant ar gael.

Grantiau ariannol

Mae gan Ddydd Gweddi’r Byd bwyllgor yma yng Nghymru, a’r pwyllgor hwn sy’n gyfrifol am baratoi’r deunydd Cymraeg yn ogystal â dosbarthu grantiau bach ariannol ar gyfer gweithgaredd Cymraeg er hybu Cristnogaeth, e.e. cynhyrchu deunydd Cymraeg gan eglwysi, deunydd i annog addoliad ac ar gyfer ehangu gwaith ysgolion Sul. Ni roddir grant tuag at gynnal a chadw adeiladau ac ni ellir gwarantu y dyfernir grant.

Am ffurflen grantiau neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mrs Margaret Morgan (trysorydd) ar 07753 195018 neu margaretmaudmorgan@gmail.com. Dyddiad cau i dderbyn cais yw diwedd mis Mawrth. Rhoddir ystyriaeth i’r ceisiadau ym mis Ebrill a bydd pob cais llwyddiannus yn derbyn siec ym mis Mehefin.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu adnoddau cysylltwch â’r ysgrifenyddion Eirian Roberts neu Sarah Morris 

neu, hwyliwch draw i’n tudalen Facebook, Dydd Gweddi’r Byd.

Sarah Morris

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.