‘Y Brecwast Gweddi gore, mor belled!’ ‘Brecwast o’r safon ucha’.’ ‘Wedi mwynhau mas draw. Braint oedd cael mwynhau bwyd hyfryd a chymdeithas felys ond yn bennaf oll i glywed tystiolaeth gadarn am ras Duw a hynny yn Gymraeg.’
Dyma rai ymatebion i’r Brecwast Gweddi pan ddaeth tua 110 o bobl at ei gilydd yng ngwesty Allt-yr-afon Cas-blaidd ar fore Sadwrn 2 Mawrth. Blasus tu hwnt oedd y brecwast, full Welsh, wrth gwrs, wedi’i weini’n gynnes a phroffesiynol gan staff gofalgar y gwesty, a’r cyfan yn digwydd mewn awyrgylch cyfeillgar yn yr ystafell fawr. Harddwyd y byrddau gan flodau prydferth, gwaith graenus Llinos Twigg.
Rhyfeddod cariad Duw
Yn dilyn toriad byr cawsom ein harwain mewn sesiwn o stori a chân gan Cath Woolridge a Rachel Mathias, o Sound of Wales. Ardderchog! Cafodd y gwesteion gyfle i ymuno yn nifer o’r emynau traddodiadol, fel ‘Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod’, ‘Dros Gymru’n gwlad, O Dad dyrchafwn gri’ a ‘Dyma gariad fel y moroedd’. Roedd yn braf clywed rhai emynau newydd hefyd, ffrwyth gwaith yr Ysbryd Glân yn ein dydd ni. Soniodd Cath am ryfeddod cariad Duw a’i ffyddlondeb ym mhob storm mewn bywyd. Ei hanogaeth oedd i bawb bwyso ar ei gariad a ddatguddiwyd yn Iesu Grist, ei Fab.
Gweddïau dwys
Cawsom ein harwain mewn gweddi gan unigolion ar themâu gwahanol, Bonni Davies yn gweddïo dros fyd amaeth, Siân Elin Thomas dros fyd addysg, Catrin Isaac Thomas dros y gwasanaethau brys a Geoff Eynon dros Fwrdd Iechyd Hywel Dda. Roedd y gweddïau’n ddwys, gafaelgar a chofiadwy. Yna cawsom ail sesiwn gan Cath a Rachel, y ddwy’n canu mor swynol. Mae’n amlwg bod eneiniad Duw arnynt. Er iddynt arwain addoliad eisoes ar draws Prydain, mewn cynadleddau mawr a bach, dyma’r tro cyntaf iddynt ei wneud yn y Gymraeg. Braf oedd eu gweld yn mentro ar ddefnydd cyhoeddus o’r iaith Gymraeg. Efallai y bydd dechreuad yn y Brecwast Gweddi yn arwain at bethau mawr a byddwn yn medru tystio maes o law, dechreuodd hyn gyda ni yn Sir Benfro!
Diolch
Cafodd nifer eu cyffwrdd gan gyfraniadau Cath a Rachel a’r gweddïau dwys. Mewn dydd o drai ar grefydd yng Nghymru, roedd hi’n braf gweld cymaint o bob oed wedi dod i frecwast gweddi o bob rhan o Sir Benfro a rhai o Sir Gâr. Estynnir diolchiadau i Gronfa Langton am gynorthwyo’n ariannol i sicrhau bod tua deunaw o bobl ifanc wedi cael y cyfle i fynychu’r brecwast am ddim ac wedi elwa o fod yn rhan o ddigwyddiad Cristnogol cyffrous. Mae’r negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, negeseuon testun, galwadau ffôn a sgyrsiau unigol wedi bod yn llawn o werthfawrogiad am y Brecwast Gweddi eleni. Gellir cael llawer mwy o fanylion am weinidogaeth Cath a’i phriod Dai ar wefan Sound of Wales. https://www.soundofwales.org.uk
Wrth gwrs, un peth yw mynychu Brecwast Gweddi sirol unwaith y flwyddyn, peth arall yw cael baich i weddïo’n gyson dros Sir Benfro. Pwy tybed a ddaw i sefyll yn y bwlch i weddïo’n gyson am adfywiad ysbrydol yn ein sir?
Geraint Morse