Odi, wir, mae’r gymanfa bwnc yn dal i fynd yn y cylch yma ers dros 70 mlynedd.

Tro capel Gwyddgrug oedd hi eleni. Mae’r cylch yn cynnwys capeli Gwyddgrug, Gwernogle a’r Tabernacl, Pencader.

Ein holwr eleni oedd y Parchg Chris Bolton, gweinidog gofalaeth Bröydd Teifi. Wyneb cyfarwydd i ni i gyd a gwnaeth i bawb deimlo’n gartrefol. Llywyddwyd y cyfan mor rhwydd gan Betsan Jones, un o ferched eglwys Gwyddgrug a oedd wedi bod mewn sawl cymanfa bwnc pan oedd yn blentyn. Gwnaed y rhannau arweiniol a’r casgliad gan Einir George a Gwennan Owen – plant a fu’n ffyddlon i ysgol Sul Gwyddgrug. Offrymwyd gweddi gan Chris Bolton, ef hefyd a arweiniodd y canu wrth yr organ a chafodd y gorau allan o’r oedolion a’r plant.

Tro yr oedolion oedd gyntaf. Trafodwyd pennod Genesis 28, lle y sonnir am freuddwyd Jacob a chafwyd ymateb gan y gynulleidfa. Tro’r plant wedyn i drafod Joseff a’i frodyr. Erbyn hyn dim ond un ysgol Sul sydd yn y cylch, sef un y Tabernacl. Braf oedd gweld cynifer o blant yn bresennol. Diolch i’r rhai a fu yn eu dysgu. Cafodd yr holwr ymateb da a hyderus gan y plant a chafodd hwyl yn eu cwmni.

I ddilyn cafwyd cyfle i gymdeithasu dros baned a chyfle i ddal i fyny a chael clonc. Diolch i bobl Gwyddgrug am y te blasus fel arfer a diolch i’r rhai fu’n addurno’r capel ymlaen llaw.

Gobeithio y byddwn yn cadw’r gymanfa bwnc i fynd am flynyddoedd i ddod.

Sioned a Verona Evans

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.