Ailosod Cenhadaeth (Revisioning Mission)

Nid y lleiaf o’r llu bendithion ddaw inni’n sgil perthyn i deulu eglwysig fel CWM yw’r cyfle a’r fraint a gawn o ddod i adnabod ein cyd-aelodau a chael yn eu cwmni gipolwg ar fawredd ac ehangder y bywyd Cristnogol. Testun rhyfeddod yn wir, yw’r amrywiaethau diddorol a welir yn ein plith lle byddo dirnad ffydd a dehongli’r ysgrythurau’n bod.

Ynyswyr y Môr Tawel

Cafwyd digon o gyfle i brofi a gwerthfawrogi hyn yn ystod y gymanfa ac un o’r uchafbwyntiau i mi oedd y ddwy sesiwn a gynhaliwyd ar y thema Ail-osod Cenhadaeth, â hynny dan arweiniad dau gyfaill o ranbarth y Môr Tawel, Dr Cliff Bird o Ynysoedd y Solomon a Dr Luma Upolu Vaai o Samoa a Fiji, y ddau’n weinidogion ac ysgolheigion, y naill yn gyn bennaeth Coleg Diwinyddol y Môr Tawel a’r llall yn un o’i olynwyr. Rhyngddynt, cafwyd cipolwg adnewyddol ar rai o ddamhegion Iesu â hynny’n hwyluso wedyn yr ymgais i fynd i’r afael ag ailosod ein cenhadaeth a’u hadnewyddu. 

Diffyg cenhadaeth

Rhagdybia’r dasg honno’r ffaith fod rhywbeth o’i le ar ein cenhadaeth, ac os mai felly y gwêl dau o Gristnogion y Pasifica bethau – lle mae canran sylweddol iawn o’r brodorion yn arddel y ffydd Gristnogol a’r eglwysi’n dal yn rhai cryfion – ni thâl hi i ninnau yma yng Nghymru, lle’r ymddengys cenhadaeth yr eglwys yn fregus iawn hyd at farw weithiau, fod yn esgeulus o’u neges.

LMS

Etifeddion ydynt, wrth gwrs, o genhadaeth gynnar y LMS (London Missionary Society) yn y Môr Tawel, yn dilyn glaniad y cenhadon cyntaf yn Tahiti yn 1795. Afraid nodi eu cariad at yr Efengyl a chynhesrwydd eu serch at y rhai hynny ar hyd dwy ganrif a ddygodd enw Iesu i’w clyw. Er hynny, nid cenhadaeth berffaith mohoni, ac mewn modd cytbwys a graslon y dadlennwyd ganddynt ei diffygion yng nghyd-destun bywyd brodorion yr Ynysoedd.

Missio Dei – ei chamddeall

Strwythurwyd y genhadaeth hon ar y cysyniad cenhadol a ddaethpwyd i’w adnabod yn 30au’r ganrif ddiwethaf fel Missio Dei, cenhadaeth Dduw, y Duw sy’n anfon, yr un y clywir adleisio’i alwad yng nghomisiwn mawr Iesu i’w ddisgyblion, i fynd ‘a gwneud disgyblion o’r holl genhedloedd.’ 

Pwy felly, a fynnai ddadlau dilysrwydd cenhadaeth sydd â’i sail yn Nuw ac ym mywyd a gwaith ein Harglwydd Iesu? Neb call! Ac nid Bird a Vaai, yn sicr. Eu dadl hwythau oedd na ddilynwyd y Missio Dei i’w phendraw, yn gymaint ag i’r cenhadon fethu a gwreiddio’r ffydd yn y cyd-destun brodorol, ac o ganlyniad trodd y genhadaeth i gyfeiriad cwbl gyfeiliornus wrth ddod yn gyfrwng i godi pobl allan o’u byd, eu hachub o’r byd, gan ddiystyru i raddau pell iawn a dinistriol hefyd, hanes ac etifeddiaeth, iaith a diwylliant, amgylchfyd a daear pobloedd oedd wedi byw erioed mewn harmoni â’u byd, y môr yr awyr a’r tir a phopeth sydd ynddynt. Dirt oedd eu gair hwythau am hyn i gyd, ‘cynefin’ i ninnau, mae’n siŵr.

‘Cafodd ein cynefin ei gythreuleiddio,’ meddent, ‘a rhaid oedd ein codi ohono. Ystyriwyd y cyfan oedd yn werthfawr a sanctaidd yn ein golwg yn adnodd i eraill ei reibio ac ymelwa arno.’ 

Missio Dei – ei hadfer

A chofio mai ymhlith y bobl hyn a’u tebyg yn y De y gorwedd canolbwynt Cristnogaeth y byd, bellach, mae’n galondid gwybod bod rhywrai fel Cliff Bird a Luma Upolu Vaai wrthi’n ddyfal yn llunio strwythur cenhadol fydd yn ein hachub ni o’r meddylfryd gorllewinol, ymerodraethol a dinistriol sy’n peri bod perygl, yn sgil cynhesu byd-eang, i rai o Ynysoedd y Môr Tawel, er enghraifft, cynefin ein brodyr a’n chwiorydd yn nheulu CWM, ddiflannu i eigion y môr.

Cenhadaeth Duw yw sail a phatrwm pob cenhadaeth. Mae’n gwreiddio yn dirt y Pasifica, ac mae’n gwreiddio yn ein cynefin ninnau hefyd. Gwelir hynny’n glir ym mywyd Iesu o Nasareth, a phrin fod neb wedi mynegi’r gwirionedd hwn yn well nag Ieuan S. Jones, (un o garedigion teulu CWM, slawer dydd) mewn emyn sydd bellach, allan o gylchrediad, fel petai, sef rhif 56 yng Nghaniedydd yr Ifanc:

Ganwyd Iesu yng ngwlad Israel,-

Iddew ydoedd Mab y Dyn:

Carai iaith a llên ei bobol,-

Parchai wreiddiau Ef ei Hun.

Yn Israel heddiw, o bob man, ac yn wir yn holl wledydd y byd lle mae pobl wedi eu hamddifadu o gynefin sy’n ddaear ffrwythlon i feithrin bywyd yn ei holl gyflawnder, y mae yma neges i’w rhannu. 

Dyfrig Rees

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.