Pwy all beidio canu moliant iddo ef?
Y mae Brenin Seion wedi dod i’r dref!
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y gymanfa a gynhaliwyd ar ddydd Sul 15 Mai 2022, a hynny yn dilyn tair blynedd o fethu cynnal y digwyddiad arbennig hwn, bendith o’r newydd oedd gallu ailymgynnull unwaith eto eleni a hynny er mwyn parhau i gynnal digwyddiad pwysig yn hanes rhai o Eglwysi Gofalaeth Bröydd Teifi wrth i Gymanfa Ganu Undebol Annibynwyr Pencader a’r Cylch, sy’n cynnwys Eglwysi Annibynnol Tabernacl, Gwyddgrug, Capel Nonni a Gwernogle, ddod ynghyd i foli drwy gân.
Ar ddydd Sul 21 Mai 2023 cafwyd dwy oedfa fendithiol iawn yng nghapel Gwyddgrug, yng nghwmni’r arweinydd gwadd eleni, sef Daniel Rees o Waungilwen; oedfa’r plant fu yn y prynhawn a chyda chymorth Band y Diarhebion, cawsom oll fwynhad o wrando ar y plant yn mwynhau canu yn nwylo medrus Daniel. Roedd hi’n braf cael cyfle i dreulio’r prynhawn yn sgwrsio ag eraill yn ystod y te a baratowyd gan aelodau Gwyddgrug.
Tro’r oedolion oedd hi gyda’r hwyr ac ni chawsom ein siomi gyda Daniel wrth y llyw unwaith yn rhagor ac yn ei ffordd ddihafal ei hun, llwyddodd i lywio’r cantorion brwdfrydig er mwyn i bawb fwynhau noson o ganu cynulleidfaol bendithiol iawn a hynny mewn mynegiant pedwar llais. Cafwyd seibiant yn ystod yr hanner amser a, chyda chymorth Marian O’Toole wrth y piano, diolch iddo am ei gyfraniad fel arweinydd Côr Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn - am ffordd wych o ddiddanu’r gynulleidfa rhwng yr emynau.
Diolchiadau
Yr un yw’n diolch i aelodau’r côr am ddod i gynorthwyo gyda’r canu cynulleidfaol. Mae ein diolch yn fawr i Daniel Rees am ei waith clodwiw gyda’r plant a’r oedolion yn ystod y Gymanfa ac yn ystod y rihyrsal fawr ar 7 Mai a hynny’n gyfle i bawb fireinio’r canu a dysgu’r nodau yn barod ar gyfer y gymanfa. Diolch i aelodau’r Tabernacl am eu gwaith wrth y rhannau arweiniol yn ystod y rihyrsal fawr, Celyn Davies ac Elsi Williams yn y prynhawn a Gwynfor Davies a Marc Jones yn yr hwyr.
Diolch i’r organyddion Marc Jones, Tabernacl a Valerie Jones, Capel Nonni am eu gwasanaeth wrth yr organ yn ystod y ddwy oedfa, am eu cymorth yn ystod rihyrsals y flwyddyn ac i Nancy Jones, Tabernacl am ei gwaith cywrain yn dysgu’r emynau. Diolch i gyfeillion y gymanfa am ddod i gefnogi a chynorthwyo gyda’r canu. Llywyddwyd y ddwy oedfa gan ein gweinidog, y Parchedig Chris Bolton, a diolch iddo am ei eiriau pwrpasol. Cyflwynwyd y rhannau arweiniol gan Chris Bolton yn oedfa’r prynhawn ac Ifor Jones, Gwyddgrug yn ystod oedfa’r hwyr, a diolch i Betsan Jones, Gwyddgrug am groesawu pawb i oedfa’r hwyr. Talwyd y diolchiadau swyddogol gan Chris a hynny yn absenoldeb Cadeirydd Pwyllgor y Gymanfa, Eric Jones, Gwernogle. Diolchwn iddo am flynyddoedd lawer o wasanaeth i bwyllgor y Gymanfa a dymunwn yn dda iddo i'r dyfodol. Diolch i aelodau capel Tabernacl am gynnal y rihyrsal fawr ac i aelodau eglwys Gwyddgrug am gynnal y Gymanfa.
Sain orfoleddus
Daeth oedfa fendithiol yr hwyr i ben yn sain orfoleddus yr emyn dôn o waith D. Vaughan Thomas, sef ‘Tyddyn Llwyn’ a geiriau pwrpasol Moelwyn:
Iesu a’m dwg i’r ddinas gadarn,
derfydd crwydro’r anial maith,
canu wnaf y gainc anorffen
am fy nwyn i ben fy nhaith;
iachawdwriaeth
ydyw ei magwyrydd hi.
Dengys geiriau pwrpasol T. R. Jones i gyfeiliant yr emyn dôn o waith William Richards, sef ‘Andalusia’ nad oes angen tyrfa fawr i allu mynegi moliant trwy gân neu i werthfawrogi’r briodas hyfryd rhwng gair a thôn, felly ‘i blith y ddau neu dri yr awron tyred di ... tyrd yn ddi-oed i gadw d’oed, a doed dy ddwyfol wynt.’ Boed hir oes i’r traddodiad o gydganu moliant mewn pedwar llais yn y gornel fach hon o’r sir a chamwn ymlaen yn hyderus at gymanfaoedd y dyfodol drwy sicrhau lle teilwng i ganu cynulleidfaol ym Mröydd Teifi.
Siân Thomas, Tabernacl