Mae’r Parchg Dyfrig Rees wrth ei ddesg yn Nhŷ John Penri fel Ysgrifennydd Cyffredinol newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Mae’n olynnu’r Parchg Ddr Geraint Tudur, fydd yn ymddeol yn swyddogol ddiwedd y mis yma, ar ôl 12 mlynedd yn y swydd. Tan hynny, bydd y ddau yn cydweithio.
Pan etholwyd y Parchg Dyfrig Rees ym mis Mai, soniodd am ei awydd i weld mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o adeiladau crefyddol fel adnodd i’r gymuned, yn ogystal â bod yn le cwrdd i’r ffyddloniaid. Mae’n awyddus i dorri lawr ffiniau rhwng cymunedau ffydd a chymdeithas yn gyffredinol, er mwyn cynnal presenoldeb Cristnogol a thystiolaeth mewn cymunedau.
Soniodd hefyd am yr angen i gynnal breichiau gweinidogion, sy’n gallu teimlo’n ynysig ac o dan faich y dyddiau hyn. Hefyd, meddai, rhaid sicrhau bod adnoddau’r Undeb, yn weithlu, yn rhwydweithiau, yn offer ac yn arian yn cael eu sianelu mewn modd addas i alluogi’r eglwysi i ymateb i’w galwad i gyhoeddi a byw efengyl y Deyrnas yn eu cymunedau a’u cylchoedd.
Pwysleisiodd ein bod yn byw mewn cyfnod o newid mawr, ac mae braint yw bod yn effro i bob cyfle ac ystyried her ein dyddiau ni fel rhywbeth cyffrous.
Byr-hanes yr Ysgrifennydd Cyffredinol newydd:
- Bu’n gweithio ar fferm ar ôl gadael yr ysgol
- Graddiodd mewn diwinyddiaeth yn y Coleg Coffa, Aberystwyth
- Ordeiniwyd i’r weinidogaeth yn 1984
- Gweinidog yn Llanbrynmair a Carno (1984-88); Bethania, Tymbl Uchaf a Llwynteg (1988-), Bethel, Y Tymbl (B) 1990-96; Capel Seion, Drefach (1996-99); Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes (2000-14); Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr (2014-).
- Cadeirydd Adran Cenhadaeth a’r Eglwys Fyd Eang dros ddau gyfnod.
- Cyn-ymddiriedolwr CWM
- Cyn-gadeirydd Coleg yr Annibynwyr Cymraeg
- Bu’n gaplan gwirfoddol Heddluoedd Dyfed-Powys a De Cymru, a chaplan ysbyty