Mae un o wledydd tlotaf y byd i dderbyn bron i £160,000 o apêl a drefnwyd gan enwad Cristnogol Cymreig.

Codwyd yr arian i Fadagascar gan Undeb yr Annibynwyr Cymreig i ddathlu 200 mlwyddiant glanio cenhadon o orllewin Cymru ar yr ynys enfawr oddi ar arfordir Affrica yn 1818. Bydd yn helpu pedwar prosiect penodol, gan gynnwys cartref i blant amddifad a lloches i ferched.
‘Tra ein bod ni yng ngwledydd cyfoethocaf y byd nawr mewn brwydr ddyddiol gyda Covid-19, i lawer o bobl Madagascar, sy’n byw ar lai na $2 y dydd, mae bywyd wastad yn frwydr barhaus,’ meddai’r Parchg Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb. ‘Bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yn y pedwar prosiect a ddewiswyd gennym. Yn y cyfnod argyfyngus hwn, pan fod angen i ni gymryd y gofal mwyaf ohonom ni ein hunain a’n cymunedau, mae anghenion pobl eraill yn ein hatgoffa ein bod yn perthyn i’r un ddynoliaeth. Mae rhoi a derbyn yn rhan annatod o’i wead.’

‘Cafodd ein heglwysi eu cyffroi gan yr apêl, gan ymateb yn wych,’ meddai’r Parchg Jeff Williams, Cadeirydd yr apêl. ‘Roedd ein cynrychiolwyr eisoes wedi ymweld â’r prosiectau i asesu eu hanghenion a sicrhau eu dilysrwydd a’u cynaliadwyedd. Cafodd defnydd helaeth ei wneud o ddeunydd gwreiddiol a grewyd ar yr ymweliadau ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r apêl ac addysgu ein haelodau am y cysylltiadau hanesyddol a phresennol â Madagascar.’
Codwyd y swm o £158,675 yn benodol ar gyfer Apêl Madagascar ac o dan gyfraith y Comisiwn Elusennau, rhaid ei wario yn unol â hynny. Caiff ei ddosbarthu trwy bartneriaeth gyda’r elusen ‘Money for Madagascar.’
Cefndir: Lansiwyd yr apêl yn 2018 yn Aberaeron, sef yr adral o ble daeth y cenhadon Cymreig cyntaf, a aethant ymlaen i hwylio i Fadagascar yn 1818. Yn ystod dathlu’r 200fed roedd dros 50 o ymwelwyr o Fadagascar, gan gynnwys cyn-Arlywydd y wlad, yn bresennol. Trwy lunio ffurf ysgrifenedig o’r iaith Falagaseg lafar er mwyn cyfieithu’r Beibl, fe wnaeth y cenhadon Annibynnol David Jones a David Griffiths greu undod cenedlaethol a helpodd bobl Madagascar i oroesi’r coloneiddio Ffrengig yn ddiweddarach. (Hwn oedd y Beibl cyntaf i’w gyhoeddi yn un o ieithoedd Affrica.) Maent yn cael eu cydnabod gan lawer o bobl ar un o ynysoedd mwya’r byd fel ‘tadau ein cenedl’.
Fideos gwreiddiol yr Apêl: https://annibynwyr.org/madagascar-2/fideos-madagascar/