Sefydlwyd y Panel Diogelwch Cydenwadol yn 2001 a ddaeth yn gwmni cyfyngedig drwy warant ddim er elw yn 2009.
Mae’r Panel yn cefnogi a chynghori eglwysi sy’n perthyn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg mewn arferion diogelu yng nghyswllt eu gwaith gyda phlant, phobl ifanc ac oedolion bregus. Gwneir hyn trwy waith polisi, hyfforddiant, cyngor a chefnogaeth, gwaith achos a gwiriadau DBS.
Mae’r Panel yn gorff cofrestredig Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) sy’n gyfrifol am brosesu’r gwiriadau DBS ar gyfer eglwysi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg o’i swyddfa yn Ninbych.
Cysylltwch â’r swyddfa os am fwy o wybodaeth neu i archebu ffurflenni.
Cysylltwch hefyd â Swyddfa’r Panel, neu ewch i’r wefan, am fwy o wybodaeth am unrhyw agwedd o ddiogelu o fewn yr eglwysi ac/neu i drefnu sesiynau hyfforddiant.
Cyfeiriad ar y we:
www.paneldiogelwch.org.uk
Teleffon: 01745 817584
Cyfeiriad post:
Panel Diogelwch Cydenwadol
Unit 1 Vale Parc,
Ystâd Ddiwydiannol Colomendy
Dinbych
LL16 5TA