Y Cyngor a’i Adrannau

Posted on

ADRAN YR EGLWYSI A’U GWEINIDOGAETH

Arweinyddion Mynegwyd gwerthfawrogiad o Gynllun yr Arweinyddion ond siom nad oes mwy o ferched yn cynnig eu hunain, gan eu bod yn y mwyafrif yn ein cynulleidfaoedd.  Mae angen cyhoeddusrwydd o’r newydd am y Cynllun.  Mae hefyd angen hysbybu’r gwahanol lwybrau y gellir eu dilyn gan y sawl sy’n dymuno arwain a gwasanaethu mewn eglwys a gofalaeth.

Cytundebau Gweinidogion Trafodwyd y priodoldeb o gael Cytundeb Cyflogaeth ar gyfer gweinidogion, yn enwedig rhai newydd.  Holwyd a yw Llythyr yr Alwad ynddo’i hunan yn ddigonol y dyddiau hyn i ddiogelu buddiannau gweinidog ac eglwys / gofalaeth fel ei gilydd.  Awgrymwyd holi barn gweinidogion yn eu cyfarfodydd nesaf yn y de a’r gogledd. Soniwyd am enghraifft o arfer dda yng Ngofalaeth Bro Llanuwchllyn. Byddai hefyd yn werthfawr derbyn barn gyfreithiol ar y mater.

Amrywiol Nodwyd fod gofyn i’n cynulleidfaoedd fod yn fwy ymwybodol o fodolaeth a gweithgarwch Coleg yr Annibynwyr Cymraeg a’r angen cyson am gyllid i’w gynnal.  Nid oes adeilad gweladwy gan y coleg erbyn hyn ac mae’n bosib felly nad yw’n gwybodaeth amdano mor amlwg ag y bu. Mae drafft o’r canllawiau diwygiedig ar gyfer Gweinidogaethau Bro wedi’u cwblhau a byddant ar gael yn fuan.  Addaswyd y canllawiau er mwyn hwyluso’r broses o gwrdd â gofynion cyfoes yn fwy effeithiol.  Cawsom ddeall y bydd statws Addysg Grefyddol yn ein hysgolion yn ddiogel yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru.  Bydd rhaid i Addysg Grefyddol fod yn weladwy fel pwnc hyd yn oed os caiff ei gyflwyno oddi mewn i’r Dyniaethau.  Mae statws CYSAGau hefyd yn ddiogel.

ADRAN TYSTIOLAETH

 Tystiolaeth ymhlith y di-gymraeg a dysgwyr  Lansiwyd yr ymgyrch hon yn gynharach eleni i gefnogi nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Rhwydwaith Merched yr Undeb wedi mabwysiadu hon fel un o’i hymgyrchoedd a braf oedd deall bod sawl gweithgaredd mewn gwahanol rannau o Gymru yn digwydd gan eglwysi unigol.

Yn y Gwyliau Cenedlaethol  Gwerthfawrogwyd y gwaith a wneir ym Mhabell yr Eglwysi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol, a  Phabell Cytûn yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.  Cafwyd adroddiad ar lafar gan y Parchg Carwyn Siddall am waith y Caplaniaid ar faes y Sioe a chytunwyd ymchwilio ymhellach i’r hyn y gallwn ni fel Undeb ei wneud i gynorthwyo, yn enwedig o ran darparu caplaniaid  Cymraeg eu hiaith. Cafwyd rhestr o’r pryderon a rennir â chaplaniaid yn ystod y sioe, ac ystyriwyd sut y gall eglwysi gynorthwyo i leddfu’r fath bryderon.

Cyhoeddusrwydd   Llongyfarchwyd Golygyddion a chyfranwyr i’r Tyst ac apeliwyd am gyfraniadau – yn bytiau o newyddion, yn gerddi, gweddïau neu erthyglau byrion.  Mae gwefan yr Undeb yn parhau i ddatblygu a newid yn wythnosol a diolchwyd am y gwaith enfawr a wneir i’w chadw yn gyfoes ac arloesol.

Cynllun ‘Y Ffordd’: Erbyn hyn mae’r bumed fideo yn barod  sef ‘Y Ffordd y Daethom’ sy’n rhoi cyflwyniad o’n hanes mewn modd arbennig. Bydd hon yn cael ei dosbarthu yn y dyddiau nesaf.

Rhaglen ddilynol i’r Rhaglen Datblygu. Adroddwyd bod cais am gymhorthdal wedi’i wneud i CWM a’n bod yn disgwyl am ateb i’n cais.

Egni Egin a Geni: Yn dilyn cyflwyniad gan y Parchg Ddr Alun Tudur, derbyniwyd y cyflwyniad yn ddiolchgar a chafwyd trafodaeth frwd ac adeiladol ar ei gynnwys. Bydd y cyflwyniad yn ymddangos yn Y Tyst yn y dyfodol agos ac rydym yn hyderus y bydd yn esgor, nid yn unig ar drafodaeth, ond hefyd ar weithredu.

ADRAN DINASYDDIAETH GRISTNOGOL

Mae Cyfansoddiad Undeb yr Annibynwyr yn rhestri deg o gyfrifoldebau sy’n dod o dan ofal yr Adran Dinasyddiaeth Gristnogol. Cynhwysant y “Genedl Gymreig, y Cynulliad Cenedlaethol a’r Wladwriaeth”, “Heddwch a materion rhyngwladol eraill”, “Cymorth Cristnogol”, “ymateb i broblemau fel alcohol, cyffuriau a theuluoedd yn chwalu” “y cyfryngau cyhoeddus”. Erbyn hyn ychwanegwyd “Y Gymru Wledig” at y rhestr. Wrth drafod gwaith yr adran am y tair blynedd nesaf cytunwyd na fedrwn ond pryn gyffwrdd â phob un o’r pynciau, felly rhaid blaenoriaethu a chydweithio â’r Rhwydwaith Heddwch a Rhwydwaith Merched yr Undeb a gweithio trwy Cytûn, pan fo hynny’n briodol, er mwyn bod mor effeithiol ag y medrwn wrth hyrwyddo Teyrnas Dduw.

Anfonwyd neges i Lysgenhadaeth Sbaen ac i Swyddfeydd Archesgobion Barcelona a Madrid yn eu hannog i gyhoeddi cymod ac i ymwrthod rhag ymateb yn dreisgar pe bai Catalunia yn cyhoeddi annibyniaeth.

Bu Mr Richard Morgan a Dr Fiona Cannon yn cynrychioli’r Undeb yn Ail Gynhadledd Y Cyngor Cenhadol Byd-eang (CWM) ar Economi Bywyd, sy’n chwilio am strwythurau ariannol ac economaidd newydd sy’n hyrwyddo llawnder bywyd i bawb. Yn ei adroddiad  amlinellodd Mr Morgan bedwar ffordd y gallai’r adran a’r Undeb hybu economi bywyd: 1, drwy ddiweddaru a chyhoeddi’r Pecyn Amgylcheddol yr Undeb yn ystod 2018; 2. Hyfforddi unigolion yn ein cynulleidfaoedd mewn sgiliau adfocasi er mwyn bod yn lladmeryddion effeithiol ar faterion yn ymwneud â thlodi a chyfiawnder cymdeithasol; 4. defnyddio buddsoddion yr Undeb i gefnogi cronfeydd sydd, er enghraifft, yn hyrwyddo prosiectau sy’n gwella ansawdd bywyd cymunedau tlawd ar draws y byd; 4. cynnwys syniadau o’r gynhadledd yn nefnyddiau Apêl Madagascar 2018.

Cawsom adroddiad am waith pwysig Gweithgor Cymru ac Ewrop gan y Parchg Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn. Mae ymchwil y ‘British Election Survey’ ar batrymau pleidleisio’r Refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd yn dangos o’r holl grwpiau demograffig ar draws y DU mae’r grŵp a’r bleidlais uchaf dros aros i fewn yn yr UE oedd Cymru Cymraeg eu hiaith.

ADRAN CENHADAETH A’R EGLWYS FYD-EANG

Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb, 6-8 Mehefin 2018 yn Aberaeron. Bydd dathlu daucanmlwyddiant glaniad y cenhadon o Gymru yn Madagascar yn 1818 yn dilyn yn Aberaeron ac yn Neuaddlwyd, Ciliau Aeron, ar 8-10 Mehefin.

Cynllun Y Ffordd  Bu llwyddiant mawr wrth gyflwyno’r cwrs i’r eglwysi yn ystod 2016-17. Erbyn hyn mae pennod gyntaf yr ail flwyddyn wedi ei gosod ar YouTube ac ar wefan yr Undeb, a’r disgiau DVD i’w hanfon at yr eglwysi sy’n eu derbyn yn union wedi’r Cyngor.

Cynadleddau  Cafwyd adroddiadau o wyth o wahanol gynadleddau y bu i Gyngor y Genhadaeth Fyd-eang (CWM) eu trefnu mewn gwahanol ganolfanau, ac y bu i gynrychiolwyr o’r Undeb eu mynychu. Y Parchg Jill-Hailey Harries, Elin Maher, Elinor Wyn Rowlands, yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Rhodri Darcy a’r Parchg Ddr R. Alun Evans fu’n rhannu’r hanes, a diolchwyd yn ddiffuant iddynt am eu hadroddiadau gan y Cadeirydd.

Dathliadau Hanesyddol  Wedi i’r Ysgrifennydd Cyffredinol son am ymweliadau  hanner blynyddol y Parchg Wayne Hawkins, Ysgrifennydd Cenhadol CWM Ewrop, â’r Undeb, aethpwyd ymlaen i adolygu gweithgarwch y Gymdeithas Hanes yn ystod y flwyddyn, yn dathlu trichanmlwyddiant geni Williams, Pantycelyn, pumcanmlwyddiant dechrau’r Diwygiad Protestannaidd, penblwydd Y Tyst yn 150, a 450 o flynyddoedd ers cyhoeddi Testament Newydd William Salesbury. Blwyddyn brysur hynod i’r Gymdeithas, felly.

Gwaith eciwmenaidd   Cyfeiriwyd at Babell yr Eglwysi ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern, am bresenoldeb y Parchg Ddr Noel A. Davies, y Dr Hefin Jones a Carys Mair Jones yng nghynhadledd fawr Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd yn Leipzig , a phresenoldeb deuddeg o Annibynwyr Cymru yng nghynhadledd Cymdeithas Annibynwyr y Byd gyda’r Ysgrifennydd Cyffredinol yn llywyddu yno.

Cwpan Denman a Thlysau Cyfundeb Lerpwl  Yn ddiweddarach, yng nghyfarfod llawn y Cyngor, penderfynwyd ar destunau 2018.  Gwaith celf heb fesur mwy na pedair troedfedd wrth dair, neu waith creadigol arall, ar y thema ‘Cymru a Madagscar’ yw cystadleuaeth Cwpan Denman, ac anerchiad o ddim mwy na phum munud ar y thema ‘Dwylo dros y môr’ yw sialens Tlysau Cyfundeb Lerpwl. Ceir manylion llawn y ddwy gystadeuaeth yn Y Tyst o fewn y mis nesaf.