Trafod Dyfodol Amaeth

Posted on

DOGFEN ALLWEDDOL I DDYFODOL AMAETH YNG NGHYMRU

Wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae ffermwyr yn wynebu cyfnod o ansicrwydd a newid mawr, gan gynnwys colli’r grantiau o £250m ddaw bob blwyddyn o’r UE. Mae’r ddogfen Ffermio Cynaliadwy a’n Tir gan Lywodraeth Cymru yn ystyried sut orau i wario arian cyhoeddus i gynnal amaeth. Mae’n argymell newid pwyslais sylfaenol, gyda’r cymorth yn y dyfodol yn seiliedig ar egwyddor cynaliadwyedd. Dyna’r unig gyfiawnhad dros wario cyllid cyhoeddus ar y sector amaeth, meddai’r llywodraeth. Gan fod Undeb yr Annibynwyr yn ymgyrchu i gefnogi ein amaethwyr, fe gyflwynwyd adroddiad ar y mater yng Nghyngor yr Undeb yng Ngregynog.

 

Cynllun Fferm Cynaliadwy

Os am barhau i gael cefnogaeth ariannol bydd rhaid i bob fferm baratoi Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Sut fydd amaethwyr yn dod i ben a hynny, a phwy fydd yn monitro pob fferm? Mae’r adroddiad yn dweud yn blwmp ac yn blaen bod marchnad ar gyfer bwyd, “felly ni fyddwn ni’n talu amdano.” Ond beth petai gwledydd eraill Prydain yn penderfynu sybsideiddio cynhyrchu cig, llaeth ac ati? Oni fyddai hynny’n creu cystadleuaeth annheg y tu mewn i Brydain a thu allan, ac yn anfanteisiol i gynnyrch o Gymru?

Iaith Cefn Gwlad

Bu seminar yr wythnos ddiwethaf yn Aberystwyth i ystyried y cwestiwn: “A fyddai gweithredu argymhellion Ffermio Cynaliadwy a’n Tir yn cryfhau neu’n gwanhau sefyllfa’r iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd?” Ym marn y trefnwyr Iaith.cyf mae’r ddogfen yn colli cyfle i hyrwyddo nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Amaethyddiaeth yw’r sector sydd â’r ganran uchaf o weithwyr sy’n siarad Cymraeg – tua 47%. Mewn ambell ardal mae’n 95%. Ond prin trichwarter tudalen o sylw gaiff yr iaith mewn dogfen sydd bron yn 150 o dudalennau o hyd.  Er fod Ffermio Cynaliadwy a’n Tir yn cydnabod bod yr grantiau a ddaw o’r UE o bosib “yn elfen amlwg wrth ddiogelu iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru,” d’oes dim mesurau penodol ac ymarferol i geisio sicrhau lles y Gymraeg yn y Cynllun newydd. Oni ddylid ystyried yr iaith fel elfen ganolog wrth sôn am “gymunedau cynaliadwy?”Onid yw’r Gymraeg yn rhan o’r amgylchedd diwylliannol mewn nifer di-ri o gymunedau cefn gwlad?

Mae’r ymgynghoriad i’r ddogfen yn cau ar Hydref 30. Fe wnaeth Cyngor yr Undeb ofyn i Alun Lenny gasglu ymateb i’w gyflwyno i’r ymgynghoriad erbyn Hydref 20. Felly, mae’r amser yn fyr! Mae’r adroddiad ar-lein: llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2019-07/dogfen-ymgynghori-brexit.pdf   

Mae croeso i chi anfon sylwadau at: alunlenny@hotmail.co.uk