Rhwydwaith Dirgel Duw

Posted on

Wel, dyma ni ar gychwyn amser rhyfedd yn ein hanes ni. Nid oes yr un ohonom ni’n cofio cael y fath brofiad mewn ffordd mor gyflawn a llwyr. Pawb i gadw i’w cartrefi, am ba hyd, nid ydym ni’n gwybod. Mae rhywbeth apocalyptig am hyn i gyd. Mi fydd 2020 yn flwyddyn i’w chofio. Ond cofiwch hefyd nad am byth y mae am fod fel hyn, daw hwn i ben, y mae amser i bob peth.

Fe’n cynhgorir i fod yn gall, i feddwl am eraill, ond yn ein panic, weithiau, nid ydym ni’n ymddwyn ar ein gorau. Gadewch i ni anadlu … mewn ..  allan … gadewch i ni bwyllo, gadewch i ni oedi, gadewch i ni feddwl am ein gilydd ac ystyried beth sy’n bwyisg yn y bywyd hwn ar y ddaear. 

Gan fod ein bywydau ni wedi’u troi wyneb i waered a bod disgwyl i ni gadw pellter cymdeithasol oddi wrth ein gilydd, yr ydym ni’n gweld mewn gwirionedd nad ‘pellter cymdeithasol’ yw’r pellter ond yn hytrach, ‘pellter corfforol’, oherwydd, dros yr ychydig wythnosau a aeth heibio, fe welson ein bod ni’n dal i gysylltu â’n gilydd yn gymdeithasol, mewn ffordd rhithiol yn hytrach. 

Daeth oedfaon arferol i ben am y tro, ac unrhyw weithgaredd cymdeithasol sydd ynghlwm â’n heglwysi ni. Ond edrychwch, mae rhywbeth yn digwydd … Mae sawl un o’n heglwysi ni wedi bod yn siarad â’i gilydd ac â’i haelodau ynglŷn â sut i gynnal a chadw ein cymunedau ac mae pethau ar waith … y mae’r holl bethau hyn yn dda, yn dod â hwb i ni. Mae’n wanwyn ar fyd natur, ac fe welwn flaguro yn ein cariad a’n consyrn tuag at ein gilydd. 

Mae sawl eglwys wedi cychwyn rhwydweithiau rhithiol er mwyn cynnal aelodau hŷn a rhai bregus yn eu plith. Yn sydyn, mae pobl yn cysylltu mwy â’i gilydd y tu allan i oedfa mewn amrwyiol ffyrdd ac ar blatfformau gwahanol. Mae pobl yn codi’r ffôn ar ei gilydd i wneud y siŵr fod pawb yn iawn, maen nhw’n ffonio er mwyn holi a gaiff pobl fynd ar neges dros ei gilydd, oes angen help gyda rhywbeth, neu dim ond i gael sgwrs, ac mae hynny ynddo’i hun yn beth da. Mae rhwydwaith ar waith ymhob cymuned a phobl yn ystyried beth sy’n bwysig a pheth sy’n angenrheidiol. Ry’n ni’n cadw llygad ar ein gilydd, yn ofalus o’n gilydd. Y gwir yw mai yr hyn sy’n bwysig – hyd yn oed ynghanol yr holl hunanynysu, neu oherwydd yr hunanynysu – yw gwybod ein bod ni’n dal i fedru cysylltu â’n gilydd, yn dal i wybod nad ydym ni ar ein pennau ein hunain. 

Ac mae pobl yn mynd yn fwy dychmygus yn eu ffyrdd o gysylltu â’i gilydd. Fu’r we erioed mor bwysig. Y mae cymunedau yn cael eu creu er mwyn i ni fod gyda’n gilydd o hyd braich. Ffurfiwyd côr newydd sef Côr-ona ar Facebook, mae pobl yn ffilmio’u hunain yn canu ac yn rhannu dros y cyfryngau cymdeithasol. Y mae’r un peth yn wir am gymunedau eraill, yr ydym ni’n estyn allan drwy ddefnyddio technoleg a chreu rhwydwaith rhithiol. 

Mae Undeb yr Annibynwyr yn gweithio ar sicrhau bod gan bobl fynediad at ddeunydd i’w cynnal dros y misoedd anodd nesaf, o oedfaon i fyfyrdodau, o emynau i weddïau ac adnoddau dysgu i blant, mae’r Undeb yn bwriadu rhannu’r cyfan dros ei gwefan, fel bod modd i ni gadw mewn cyswllt â’n gilydd, fel nad oes neb yn cael eun hanghofio. Ewch i annibynwyr.cymru i ddod o hyd i bob dim. Bydd Y Tyst yn gyfrwng rhannu gwerthfawr hefyd. 

Yr ydym ni’n perthyn i’n gilydd, yn frodyr ac yn chwiorydd – rydym ni’n deulu. Yn yr amser dyrys hwn, fe fyddwn ni’n cynnal ein gilydd ac yn caru’n gilydd, oherwydd fe garodd Duw’r byd nes iddo anfon ei unig anedig fab i’n hachub ni. 

Mi ganodd y bardd, Waldo Wiliams yn ei gerdd ‘Brawdoliaeth’, mewn ffordd mor hollol ardderchog, mae’r gair olaf yn eiddo i Waldo:

Mae rhwydwaith dirgel Duw

gan Elinor Wyn Reynolds