Penderfyniadau Undeb 2015

Posted on

Mae gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg draddodiad hir o sefyll dros heddwch a hawliau pobl. Caiff y materion hyn eu codi yn y Cyfarfodydd Blynyddol. Nid yw eleni’n eithriad. Cofiwch drafod y Penderfyniadau yn eich capel chi, gan y bydd tocyn gan bob eglwys i gynrychiolwyr i bleidleisio ar eich rhan yn y Cyfarfodydd Blynyddol yn Nant Gwrtheyrn.TYST Pleidlais

  1. Rhwydwaith Heddwch Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

 Yr ydym yn galw ar Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i annog pob Cyfundeb i benodi swyddog cyswllt fyddai’n gyfrifol am ysgogi a chydlynu gweithgarwch i hybu heddwch a chymod ar lefel Cyfundeb, gofalaeth, ac eglwys, fel rhan o Rwydwaith Heddwch yr Undeb, a bod enw’r swyddog yn ymddangos yn y Blwyddiadur.

Cynigydd: Parchg Ken Williams.   Eilydd: Parchg Aled D. Jones    (ar ran Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin)

  1. Hyrwyddo Cymdeithasau a Rhwydweithiau Cymdeithasol yr Undeb

Yn dilyn cyfarfod cychwynnol bywiog ym mis Ebrill oedd yn gam cyntaf tuag at sefydlu Rhwydwaith Merched yr Annibynwyr, mae’r rhai oedd yn bresennol yn galw ar gynhadledd Undeb yr Annibynwyr i ddatgan eu cefnogaeth i’r corff newydd hwn. Nid corff ydyw sydd am ddisodli’r mudiadau chwiorydd sydd eisoes yn bodoli; y nod yn hytrach yw creu corff a fydd yn rhoi cyfle i holl ferched Undeb yr Annibynwyr addysgu, gwasanaethu ac ymgyrchu, gan godi llais a gweithredu dros ferched yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Er mwyn i’r Rhwydwaith fedru gweithredu’n effeithiol, ac er mwyn i’r Rhwydwaith Heddwch a’r Gymdeithas Hanes hefyd fedru ffynnu i’r dyfodol, gofynnir i’r gynhadledd ganiatáu cyflogi unigolyn i weithredu fel cydlynydd, i hybu a gweinyddu’r cymdeithasau, i ofalu am adnoddau cyfrifiadurol a rhwydweithiau cymdeithasol yr Undeb, gan gynnwys y wefan, a hefyd i ofalu am ba waith ymchwil bynnag fydd yn angenrheidiol i ganiatáu i’r Undeb a’i staff gyflawni eu gwaith a chyfathrebu yn effeithiol ar y we fyd-eang yn y blynyddoedd sydd i ddod. Dylai’r sawl a gyflogir fod wedi ei lleoli/leoli yn Nhŷ John Penri.

Cynigydd: Parchg Jill-Hailey Harries.   Eilydd: Dr Fiona Gannon   ( ar ran Rhwydwaith Merched Undeb yr Annibynwyr Cymraeg)

  1. Y Ddeddf Hawliau Dynol

Ym 1950 fe luniwyd y Confensiwn Ewropeaidd i warchod hawliau dynol. (Nid oes a wnelo hyn â’r Undeb Ewropeaidd yn uniongyrchol, gan fod gwledydd fel Rwsia a Thwrci hefyd wedi arwyddo’r Confensiwn.) Ym 1998, fe basiodd senedd San Steffan y Ddeddf Hawliau Dynol, er mwyn ymgorffori’r hawliau sydd yn y Confensiwn Ewropeaidd yng nghyfraith ddomestig y Deyrnas Unedig. Mae’r Ddeddf yn gwarchod ystod eang o hawliau, gan gynnwys rhyddid barn, cydwybod a chrefydd. Mae’n mynnu bod cyrff cyhoeddus fel yr heddlu, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chynghorau lleol yn parchu’r hawliau hynny.

Ond yn awr, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ddileu’r Ddeddf a rhoi Mesur Hawliau Prydeinig yn ei lle. Ofnir y gallai hyn lastwreiddio hawliau dynol pobol Prydain.

 Penderfyniad: Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn gwrthwynebu bwriad llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rydym yn:

  1. Galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ailystyried;
  2. Gofyn i Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y Ddeddf Hawliau Dynol yn parhau mewn grym parthed materion sydd wedi eu datganoli yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006;
  3. Gofyn i Cytûn i gydlynu ymgyrch ymhlith yr eglwysi, mewn cytgord â mudiadau eraill lle bo hynny’n gymwys, o blaid cadw’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Cynigydd: Mr Alun Lenny.    Eilydd: Parchg Tom Defis ( ar ran Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin )

  1. Israel a Phalesteina

Ers ennill yr etholiad cyffredinol fis Mawrth eleni, y mae agwedd llywodraeth Israel wedi caledu tuag at y Palestiniaid, gyda’i Phrif Weinidog yn datgan na fydd ef fyth yn caniatáu sefydlu dwy wladwriaeth gyfochrog â’i gilydd yn Israel a Phalesteina. Yn wyneb hyn cynyddodd y tensiynau rhwng y ddwy genedl a gwelwyd chwalu ar y gobeithion o ddechrau datrys un o’r sefyllfaoedd sy’n peryglu heddwch y byd. Ddeng mlynedd yn ôl lansiwyd ymgyrch ‘Boycott, Divestment and Sanction’ (BDS) gan 171 o fudiadau yn cynrychioli’r Palesteiniaid, i geisio dwyn y math o berswâd rhyngwladol ar Israel a fu mor effeithiol yn y frwydr yn erbyn y drefn aparteit yn Ne Affrica.

Tri nod yr ymgyrch yw:

  1. Rhoi terfyn ar feddiant Israel ar diroedd Palesteiniaid a dymchwel y Gwahanfur a adeiladwyd yn anghyfreithlon yn ôl dyfarniad y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol;
  1. Cydnabod hawliau dynol dinasyddion Arabaidd-Palesteinaidd Israel yn llawn;
  1. Parchu, diogelu a hybu hawl ffoaduriaid Palesteinaidd i ddychwelyd i’w cartrefi a’u tiroedd yn unol â Phenderfyniad 194 y Cenhedloedd Unedig.

Bellach mae ymgyrch BDS yn ennill mwy a mwy o gefnogaeth gan wledydd, mudiadau, cwmnïau masnachol ag eglwysi ar draws y byd.

Galwn ar Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i ddatgan cefnogaeth i fudiad BDS, ac ar yr Undeb, eglwysi’r Annibynwyr ac aelodau’r eglwysi i sicrhau nad ydynt yn buddsoddi yn Israel na chwmnïau sy’n gweithio yn Israel, na chwaith yn prynu nwyddau a gynhyrchwyd yn Israel a thiroedd y meddiant.

Cynigydd: Parchg Hywel Wyn Richards.    Eilydd: Mr Robat Powell  ( ar ran yr Adran Dinasyddiaeth Gristnogol )

  1. Arfau Niwclear Trident

TYST TridentY mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn:

  1. Gwrthwynebu bwriad cynlluniau llywodraeth San Steffan i adnewyddu system arfau niwclear Trident;
  1. Pwysleisio’r gwell defnydd y gellid gwneud o’r arian pan fo cymaint o wasanaethau mewn argyfwng ar hyn o bryd;
  1. Gwrthod unrhyw awgrym y gallai llongau tanddwr sy’n cario arfau niwclear fod a’u canolfannau yng Nghymru;
  1. Galw ar ein heglwysi i fynegi’r llais hwn yn eglur ac yn gyson.

Cynigydd:  Parchg J. Ronald Williams   Eilydd: Parchg Iwan Llewelyn Jones  ( ar ran Rhwydwaith Heddwch Undeb yr Annibynwyr Cymraeg)