Penderfyniad: Hanes Cymru

Posted on

Penderfyniadau i Gyfarfodydd Blynyddol yr Undeb yn Aberaeron, 6-9 Mehefin 2018

Defnyddiwch eich pleidlais! Cafodd pob eglwys ac unigolyn sy’n perthyn i’r Undeb gerdyn pleidleisio. Cofiwch drafod y ddau Benderfyniad yn eich capel chi, a sicrhau bod cynrychiolydd o’ch plith yn defnyddio’r cerdyn i bleidleisio yn Aberaeron.

Dysgu hanes yn Ysgolion Cymru

Ym mis Chwefror 2018 cyflwynwyd deiseb i Lywodraeth Cymru, wedi ei llofnodi gan dros 5,000 o bobl, yn galw arnynt i newid y Cwricwlwm Cenedlaethol er mwyn dysgu hanes Cymru o bersbectif Cymreig yn ein hysgolion cynradd, uwchradd a’r chweched dosbarth. Cytunwn â hyn, gan fod dyfodol ein cenedl yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar ddeall, gwerthuso a dehongli ein gorffennol – y bobl a’r digwyddiadau sydd wedi llunio Cymru heddiw.

PENDERFYNIAD

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg o’r farn bod angen i bobl Cymru ddysgu mwy am hanes ein gwlad a chyfraniad ein pobl yn rhyngwladol. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hanes mewn ysgolion a cholegau yn cael ei ddysgu o safbwynt Cymreig. Yn benodol:

  • Hanes lleol sy’n tystio i gyfnodau ac i newidiadau ar hyd y canrifoedd
  • Hanes datblygiad ein cenedl, gan gynnwys effaith y dylanwadau allanol
  • Dylanwad a chyfraniad llesol ac andwyol Cymru a Chymry at hanes rhyngwladol 

Rydym hefyd am weld mwy o sylw yn cael ei roi i’r datblygiadau a’r digwyddiadau crefyddol sydd wedi cyfrannu gymaint tuag at greu cymeriad ein cenedl.

Wrth i Lywodraeth Cymru drosi gweledigaeth Adroddiad Donaldson (Dyfodol Llwyddiannus, 2015) yn realiti, rhaid sicrhau bod ei gyfeiriadau brith at ‘Ddimensiwn Cymreig’ yn cael eu gwreiddio yn y maes llafur hanes. Bydd hyn yn cyfoethogi dealltwriaeth dysgwyr o’r byd o’u cwmpas fel dinasyddion o Gymru, yn ogystal â’r byd.

Cynigydd: Y Parchg Aled D. Jones  Eilydd:  Y Parchg Guto Llywelyn

Cyflwynir y cynnig ar ran Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin