Peidiwch â phardduo ffoaduriaid

Posted on

Mae arweinwyr yr enwadau Cristnogol yng Nghymru wedi galw ar y wasg a’r cyfryngau i newid y modd y maent yn ymdrin â straeon sy’n ymwneud â ffoaduriaid a mewnfudwyr. Honnir bod y straeon rhan amlaf yn rhai negyddol, sy’n groes i’r croeso cynnes mae ffoaduriaid wedi cael mewn sawl cymuned.

Mewn llythyr at olygyddion y cyfryngau, mae’r arweinyddion – sy’n cynnwys y Parchg Ddr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr – yn cefnogi ymgyrch Cymorth Cristnogol, sy’n galw ar y wasg a’r cyfryngau i ‘Newid y Stori’.

ffoaduriaid BBC“Dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf rydym wedi gweld polareiddio digynsail o agweddau at fewnfudo a ffoaduriaid, gan arwain at gynnydd dramatig a hyll mewn troseddau casineb hiliol ers y refferendwm. Mae’r storïau hyn wedi dominyddu ein cyfryngau, ac arafu gweithredu gwleidyddol i gynnal ffoaduriaid ac i sicrhau eu hawliau. Ond fel arweinwyr Eglwysi Cymru, nid yw’r straeon hyn o gasineb yn cyd-fynd â’r ymateb hael a welwn yn ein cymunedau, ac nid ydym yn derbyn chwaith y ffordd y caiff ffoaduriaid eu pardduo gan elfennau o’r cyfryngau a’r sefydliad gwleidyddol. Dyna pam yr ydym yn cefnogi ymgyrch Cymorth Cristnogol i ‘Newid y Story, gan geisio herio a newid y ffordd y caiff ffoaduriaid yn cael eu portreadu.

Mae’n hanfodol ein bod yn cofio bod gan y Gymru hanes cyfoethog o gefnogi pobl wedi eu gorfodi o’u cartrefi gan drais a gwrthdaro. Yn y rhyfel byd cyntaf, bu cymunedau Cymreig yn agor eu breichiau i groesawi ffoaduriaid Belgaidd yn dianc rhag y dinistr. Mae Cymru fodern yn gymysgedd hynod o bobl sydd wedi ceisio lloches yma – o Eritrea, Yemen, Somalia, Irac a llawer mwy – sydd wedi cyfoethogi ein cymunedau a’n gwneud yn wlad o amrywiaeth diwylliannol. Heddiw, mae cymunedau ledled Cymru yn ymateb yn gadarnhaol i’r argyfwng ffoaduriaid presennol – drwy gasglu dillad ar gyfer rhai sydd mewn angen yn agos atom yng ngwersylloedd Calais, drwy roi yn hael at yr apêl brys i gyrraedd y rhai sydd mewn angen yn Irac, Libanus, y Balcanau a Gwlad Groeg , a thrwy baratoi croeso lleol i ffoaduriaid Syria cyrraedd yma. Rhaid i’r straeon o obaith a charedigrwydd yn cael eu clywed.

Gyda’r gefnogaeth yma o’n cymunedau, galwn ar lywodraeth y DU i gymryd weithredu cyn cyfarfod y Cenhedloedd Unedig ar Ffoaduriaid a Ymfudwyr ym mis Medi, er mwyn

  • Derbyn niferoedd uwch o ffoaduriaid, a’u derbyn o fwy o wledydd, a chyflymu’r broses o ailsefydlu’r 20,000 o Syriaid y mae’r DU eisoes wedi cytuno i dderbyn.
  • Cyflwyno system o fisâu dyngarol i’r DU, gan gynnwys drwy drydydd gwledydd;
  • Cryfhau a gweithredu mesurau digonol ar gyfer ailuno teuluoedd;
  • Gweithredu ar eu cyfrifoldebau i adleoli ffoaduriaid sydd eisoes yn yr UE.

Mae’n rhaid i ni barhau i ymateb i anghenion ffoaduriaid gyda dewrder a rhaid i ni weithio gyda’n gilydd fel cymunedau yng Nghymru i ganfod undod yn ein dynoliaeth gyffredin a thosturi tuag at eraill.

Yn ogystal â Dr Geraint Tudur, cafodd y llythyr ei arwyddo gan yr Athro John Gwynfor Jones (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), y Parchg Judith Morris (Undeb Bedyddwyr Cymru), y Parchg Ddr Stephen Wigley (yr Eglwys Fethodistaidd), y Parchg Simon Walkling (yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig – URC) , Archesgob Cymru y Parchedicaf Ddr Barry Morgan a’i gyd-esgobion Cymreig.