erthygl gan y Parchg Ron Williams

Oes yna bwynt bellach?
Oes rhywun yn gwrando?
Y busnes Heddwch a Chymod sydd ar fy meddwl.
Fel sawl un arall –
hoffwn ddileu rhyfel.
hoffwn dystio i’r foment pan fydd gwledydd ddim yn gwario ceiniog ar filitiariaeth,
hoffwn i olygfeydd welaf ar y teledu am blant yn cael eu lladd a’u brifo oherwydd bomiau stopio.
Oes yna bwynt dal ati?
Oes rhywun yn gwrando?
Ai fi wnaeth gamgymeriad – credu daw heddwch a thangefedd i bob rhan o’r byd?
Ai fi sydd wedi camddeall na ellir cael gwared ar gasineb?
Ai fi wnaeth ddim gwrando ar y lleisiau ddwedodd wrthai hyd syrffed fy mod yn byw mewn paradwys ffŵl.
Ai fi oedd yn wirion i gredu geiriau’r proffwyd y gellir troi cleddyfau yn sychau ac na chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl?
Ai fi fu’n ffôl i dderbyn dysgeidiaeth Iesu?
Cefais fagwraeth wnaeth ddwyn sylw at Dywysog Tangefedd.
Cefais athro ysgol Sul aeth fel cennad heddwch i Fietnam adeg y rhyfel.
Clywais y lleisiau yn ei alw’n ffŵl.
Mynychais gyfarfodydd gweddi yn y festri tra fu yno.
Bûm yn siarad yn y Deml Heddwch adeg sefydlu Cymdeithas y Cymod yng Nghymru.
Roedd Gareth yn llywyddu ac Archesgob Cymru, Gwynfor a George Macleod yn annerch hefyd.
Bûm yn cyd-drefnu cynadleddau Ieuenctid Cymdeithas y Cymod yn Llangrannog am sawl blwyddyn.
Gwelais athrawon Ysgol Rhydfelen yn dod â llond bws o ddisgyblion – athrawon ar dân dros heddwch.
Bu gweinidogion yn gefnogol i’r cynhadleddau a sicrhau fod yr ifanc dan eu gofal yno.
‘Wnei di eilio neu gynnig penderfyniad yng nghynhadledd Undeb yr Annibynwyr o blaid heddwch?’ oedd y cais lawer tro, ‘Wrth gwrs y gwnaf,’ oedd fy ateb.
Medrwn fynd ymlaen ac ymlaen …
Wedi’r holl waith …. welwch chi newid ?
A wastraffais fy amser? Rhaid peidio gwastraffu rhagor …
Rhof heibio’r ymdrech o hyn ymlaen achos:
Does dim pwynt dal ati.
Does neb yn gwrando!
Heddiw derbyniais ddau e-bost:
Y cyntaf oedd : https://youtu.be/lOcprjBm2L4 – yn sôn am gomic rannwyd adeg ymgyrchoedd Martin Luther King.
Yr ail : https://youtu.be/Os49NgzqWjQ – genod o Balesteina’n canu am ryddid.
Gwylais – gwrandewais – teimlais yn euog – roeddwn wedi agor y drws i’r diawl Satan.
Gwrando arno wnes i … gwrando arno’n dweud, ‘Does dim pwynt dal ati.’
Ydw i am roi’r gorau iddi felly? Dim peryg!
Daliaf ati.
Ron Williams